Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hwnnw yn "Mistar ar Mistar Mostyn." O ran hynny rhywbeth i'w ffieiddio yw balchder awdurdodol. Yn wir, nid yw'n osio osgoi meflau rhelyw o'i gymeriadau. Ond fe gewch eich argyhoeddi, ar waetha hyn oll, fod yna rinwedd cyfrinol yn perthyn i "gyfnod arbennig mewn ardal arbennig" fel yr awgryma'r rhagair. Amcan yr ysgrifau yw diogelu nodweddion hamddenol cyfnod sydd wedi diflannu onid mewn atgof. Ai dyna pam y cyfeirir mor aml at weithgarwch angau? Mae'n dda iawn cael pasiant a berfformiwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963 wedi ei ddiogelu rhwng cloriau llyfr o'r diwedd. Da hefyd oedd deall i blant Ysgol Dyffryn Conwy, Llan- rwst roi perfformiad ohoni fis Ionawr eleni. Roedd yn ddewis naturiol, gan mai darlun banoramig hanesyddol a daearyddol o'r dyffryn hwnnw ydyw. Ceir yn "Y Llinyn Arian" briodas hynod esmwyth rhwng rhydd- iaeth a barddoniaeth, er bod iddynt eu swyddogaeth briod yn y gwaith. Cyflwynir y cefndir gan y rhan a gymerth yr afon a'r llynnoedd a'r coed ym mywyd ei phobl, pobl a gynhyrchodd enwogion a roes gyfraniad arbennig i hanes Cymru. Brawddega'n gynnil: mae un yn ddigon i gyfleu yn llawn naws digwyddiad a chymeriad person. Mae'r eirfa'n hynod gyfoethog. ac yn llithron esmwyth, fel y dylai darn i'w adrodd ar goedd fod, a'r vers libre, yn disgrifio'n wych brofiadau a theimladau pobl y gwahanol gyfnodau. Mae'r cyfanwaith yn llwyddo i greu cyffro pleserus wrth ei ddarllen, a hawdd credu geiriau W.Ll.R. (yn ei ragair) am y noson gynhyrfus a gaed yn ei berfformio. Byddai'n resyn, er hynny, pe byddid wedi peidio rhoi'r gwaith gwych, caboledig hwn rhwng cloriau llyfr. Rhaid ychwanegu fod y rhagair yn gyflwyniad delfrydol i'r llyfr a llongyfarch y cyhoeddwr am argraffiad mor ddifrychau. Un neu ddau, digon disylw, welais i drwy'r llyfr i gyd. Gresyn garw fod yr awdur bellach wedi sgrifennu ei lyfr olaf un. R. J. OWENS Cerdded y Lein gan R. Lewis Jones, Gwasg Tŷ ar y Graig. Tt. 132. Pris 80c. Ychydig o Gymry a gafodd brofiad mor ddiddorol ac mor amryw- iol â'r Dr. R. Lewis Jones, a llwyddodd i gostrelu llawer ohono yn y llyfr hynod werthfawr a darllenadwy hwn. Un o hogiau tref "hwyliog" Eifion Wyn yw ef, ac wedi rhai blynyddoedd ar y rheilffordd, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, torrodd gwys newydd iddo'i hun drwy fynychu colegau Clynnog a Threfeca, Huron a Chicago. Aeth i'r weinidogaeth gyda'r Presbyteriaid a gwasanaethodd yn Butte (Montana), Detroit (Michigan), Lime Springs (Iowa), Slatington (Pennsylvania), Jersey