Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG HARLECH (COLEG PRESWYL I OEDOLION) Mae'r Coleg yn darparu cyrsiau heb eu hongori wrth yr un alwedigaeth i ddynion a merched dros ugain oed. Cynigir dau gwrs-cwrs blwyddyn, cwrs heb fod ynghlwm wrth arholiad o unrhyw fath, a chwrs dwy flynedd, yn arwain i Ddiploma Prifysgol Cymru mewn Astudiaethau Cyffredinol. Lluniwyd y cwrs hwn yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am fynd i'r Prifysgolion a'r Colegau Hyfforddi i astudio, ar ôl gadael Harlech. Nid oes angen cymwys- terau arbennig i gael eich derbyn. Gellir astudio'r pynciau canlynol Economeg, Hanes Economaidd, Llenyddiaeth Saesneg, Athroniaeth, Seicoleg, Hanes Politicaidd, Hanes Cymru, Llenyddiaeth Gymraeg, Dysgu Cymraeg, Perthnasedd Diwydiannol, Y Cyfan- soddiad Prydeinig, Rhesymeg. Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst cynhelir ysgolion haf wythnosol mewn amryw bynciau. Ceir manylion Ilawn gan y Cofrestrydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirionnydd.