Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR. Cyfrol XXVII. Rhif 2. RHAGAIR 'RoEDD C.R. newydd orffen bwrw'r defnydd ynghyd cyn ei farw, a cheir, felly, yng nghorff yr erthyglau, ar wahân i'r deyrnged ei hun i'r Athro Alun Llywelyn-Williams, gyfeiriadau ato fel petai'n dal yn fyw. Bernais, wrth baratoi'r gyfrol i'r Wasg, mai doeth fyddai gadael y cyfan yn union fel y trefnodd C.R. hwynt gan ychwanegu teyrnged yr Athro Alun Llywelyn-Williams iddo yntau yn ddiweddglo iddi. Trist meddwl mai dyma rifyn olaf Lleufer a C.R. yn olygydd iddi, rhifyn, hefyd sydd yn rhifyn teyrnged iddo. Collasom gyfaill a chefnogwr dihafal-parod ei gymwynas, parod ei gymorth a pharod ei sirioldeb ar bob achlysur. Cyfrannodd yn helaeth i waith y W.E.A., i Addysg Oedolion ym mhob agwedd arni, i'r Gymdeithas yn gyffredinol ac i'w wlad ac i'w genhedlaeth. Mawr yw'r gofid o'i golli a mawr yw'r bwlch sydd ar ei ôl. R. WALLIS EVANS.