Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRO ALUN LLYWELYN-WILLIAMS BYDD yr Athro Alun Llywelyn-Williams yn ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr Astudiaethau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor, ar y dydd olaf o Ebrill eleni. Bu'n bennaeth yr Adran hon ers 1948 cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ac yn ystod y blynyddoedd hyn gwelodd a bu'n gyfrifol am nifer o newidiadau yn y gwaith. Daeth i'w swydd yn y cyfnod yn union ar ôl y rhyfel pan oedd cryn dipyn o gynnwrf ym myd addysg yn gyffredinol, a llawer o edrych ymlaen at newid, ehangu a mwy o gydraddoldeb. Blynyddoedd cyffrous oedd y rhain, ac addysg i oedolion yn wynebu sialens. Nid gorchwyl hawdd a wynebai'r Cyfarwyddwr newydd ym Mangor. Yn wir 'roedd y swydd ei hun yn newydd; ond 'roedd gan Alun Llywelyn- Williams, gyda'i ddull tawel a boneddigaidd o fynd o gwmpas "ei bethau," y bersonoliaeth ddelfrydol i lanw'r swydd ac i wynebu sialens yr amseroedd. Yn ddi-stŵr a di-gyfIro o dan ei arweiniad tyfodd gweithgareddau'r adran yn ystod y blynyddoedd, a hynny heb ollwng gafael ar y cysylltiadau agos a thraddodiadol a fu rhyngddi â'r werin yng Ngogledd Cymru. Mae'r Athro Llywelyn-Williams yn cyfeirio at rai o'r datblygiadau yn ei erthygl ddiddorol a gwerthfawr yn y rhifyn hwn, felly 'does dim angen i ni fanylu ymhellach yn y fan hon-dim ond dweud yn syml ei fod wedi codi adeilad cadarn ar y sylfeini da a drosglwyddwyd iddo ym 1948. Mae'n gadael etifeddiaeth deg i'w olynydd. Wrth ffarwelio, dymunwn yn dda iddo ef a Mrs. Llywelyn-Williams, gan gredu a gobeithio y bydd gyda ni am flynyddoedd eto ac na fydd pall ar ei ddiddordeb yn y gwaith. Llongyfarchwn ef ar ei ethol yn is-lywydd y W.E.A. yng Ngogledd Cymru a Choleg Harlech. Drwy ei anrhydeddu fel hyn, mae'r ddau sefydliad yn gofalu, hefyd, y bydd y cysylltiadau'n parhau ac y gellir edrych ymlaen am gyngor ganddo pan fydd angen.