Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O BROFIAD Gan Yr Athro ALUN Llywelyn-Williams. Ar derfyn y rhyfel diwethaf pan ddechreuwyd gweithredu Deddf Addysg 1944, 'roedd pawb yn disgwyl y byddai gan addysg oedolion ran bwysig a chyffrous i'w chwarae yn y gwaith o greu ym Mhrydain gymdeithas well. Ac felly y bu, er mai ychydig iawn hyd yn oed o'r bobl fwyaf meddylgar a ragwelodd ar y pryd holl faint ac aruthredd y trawsnewid oedd i ddod yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Pan benodwyd fi ym 1948 i swydd newydd Cyfarwyddwr Efrydiau Allanol Coleg Bangor mae'n rhaid i mi gyfaddef mai ychydig iawn a wyddwn am addysg oedolion, er bod gennyf amryw o gyfeillion ymhlith darlithwyr yr Adrannau Allanol a chysylltiadau hefyd â'r W.E.A. yn y de. Wrth edrych yn ôl 'rwy'n synnu'n awr fy mod wedi cael fy mherswadio i gynnig am y swydd o gwbl, ac yn synnu'n fwy fy mod wedi llwyddo i'w chael. 'Rwy'n cofio'r Dr. Tom Richards yn dod ataf yn y llyfrgell un bore a dymuno lwc dda i mi­"Mi fydd digon o'i angen arnoch," meddai yn ei lais mwyaf tosturiol. 'Roedd y Doctor yn llygad ei Ie. Ond mi fûm i'n lwcus, yn lwcus dros ben. Y lwc mwyaf a ddaeth i'm rhan yn ddiamau oedd cael o'r dechrau cyntaf gyfeillion newydd da a'm cymerodd yn garedig dan eu gofal a'm rhoi ar ben fy ffordd i ddysgu rhywfaint am y delfrydau ysblennydd a fu'n ysbrydoliaeth oes iddynt hwy a'u cenhedlaeth. Dyna Arthur Dodd yn un, yr Athro Hanes, a fu'n diwtor dosbarth- iadau ac yn Gadeirydd Pwyllgor y Dosbarthiadau Tiwtorial am flynyddoedd cyn penodi cyfarwyddwr amser-llawn, ac a fu unwaith yn ddisgybl i R. H. Tawney ei hunan. Ac Emrys Evans, Syr Emrys, y Prifathro a fu'n gadarn ac yn hael ei nodded i'r Adran newydd am ei fod mewn llawn cydymdeimlad â'r phwrpas ac yn ymfalchio yn nhraddodiad y Coleg yn ei berthynas ag addysg y werin. A Trevor Jenkins wedyn, a oedd newydd ei benodi yn Athro Addysg a'i ethol yn Gadeirydd Pwyllgor y Dosbarthiadau Tiwtorial i olynu Arthur Dodd. Gyda'i brofiad personol o waith allanol prifysgolion eraill y tu allan i Gymru, a'i ddoethineb tawel, bu ef yn gefn amhrisiadwy i'r Cyfarwyddwr o'r dechrau, ac y mae wedi bod yn fraint fawr ei gael yn gymrawd ac yn gynghorydd bellach am dros ddeng mlynedd ar hugain.