Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TAITH I'R DWYRAIN PELL, EBRILL A MAI 1978 Gan M. C. EDMUNDS. 'ROEDDEM yn gadael Heathrow mewn awyren Brydeinig am hanner awr wedi un-ar-ddeg ar fore eithaf dymunol yn Ebrill, o dan ofal ein harweinydd, Mr. Brian Evans, Cymro o Abertawe, ac yn cyrraedd Moscow am hanner awr wedi tri yn y prynhawn. Buom yn aros yn y maes glanio ym mhrifddinas Rwsia am ddwy awr cyn newid awyren i fynd â ni ymlaen i Tokyo. Cymerodd y daith i Siapan tua deuddeng awr, ac yr oedd yn ugain munud i bedwar yn bore bach arnom yn glanio mewn maes awyr ychydig filltiroedd y tu allan i Tokyo. Erbyn hyn 'roeddem yn eithaf blinedig ar ôl bod yn teithio drwy'r awyr am dros bedair awr ar ddeg. 'Roedd bws yn ein haros i fynd â ni i'n gwesty yn y brifddinas­ y "IMsco Plaza’’­taith ychwanegol o ddwy awr. Cyflwynodd Mr. Evans fi i ferch ifanc, ddymunol iawn yr olwg, o Torquay, 'roeddwn i rannu ystafell wely â hi. Ond 'roeddwn mor flinedig erbyn hyn y buaswn yn barod i rannu gwely hefo eliffant pe bai rhaid! Gorchwyl gyntaf ein harweinydd y bore wedyn oedd dosbarthu tocynnau bwyd i ni ar gyfer ein harosiad yn Siapan. 'Roedd y rhain yn caniatáu i ni gael brecwast gwerth £ 2 a chinio gyda'r hwyr gwerth £ 10. ('Roedd yn rhaid i ni ofalu drosom ein hunain am ginio ganol dydd a the, os y dymunem fwyta ar yr adegau hyn o'r dydd.) Am fy nhocyn brecwast cefais wydriad bach o sudd oren a dwy dafell o fara, wedi eu crasu yn ysgafn, a menyn. Gofynnais am un dafell arall, a bu rhaid i mi dalu doler yn ychwanegol am fod mor farus Am y tocyn £ 10 'roedd pryd o fwyd eithaf digonol i'w gael-amryw- iaeth o fwyd wedi ei baratoi ar ein cyfer a chryn dipyn o ddewis, a ninnau yn helpu ein hunain i gymaint ag oedd ei angen arnom. 'Roedd yn eithaf blasus, er na wyddai y rhan fwyaf ohonom beth oedd ei gynnwys! Ar ein diwrnod cyntaf yn Tokyo cawsom daith mewn bws o amgylch y ddinas o dan gyfarwyddyd merch ifanc-Eva oedd ei henw-a oedd i esbonio i ni beth o'i hanes a phwrpas y gwahanol adeiladau a welem ar ein taith. Y lle cyntaf a welsom oedd teml i'r Bwda, lle'r oedd nifer o bobl yn gweddio. Yna heibio i'r Palas Brenhinol, ond nid oedd llawer i'w weld yno, oherwydd saif y Palas