Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amser. Un gwyn sydd gennyf am y lle mae yno lawer iawn o ladron cyfrwys a medrus. Llwyddodd un ohonynt i ddwyn fy nghamera o'm bag llaw heb i mi wybod dim am y digwyddiad. Serch hynny, gadewais Singapore gyda golwg hiraethus yn ôl wrth i'r awyren godi o'r maes awyr ar y bore cyntaf o fis Ebrill 1978. Y diwmod wedyn 'roeddwn yn ôl yn Llundain, wedi cyflawni breuddwyd a fu'n fy nghorddi ers blynyddoedd, sef ymweld â Siapan a'r Dwyrain Pell. Bu rhaid i mi aros nes 'roeddwn wedi troi fy mhedwar ugain oed cyn i'r cyfle ddod. Ond 'rwy'n hynod o falch fy mod wedi cael y cyfle. A BARDD YR HAF YM MON* Gan J. O. Jones. 'Roedd Robert Williams Parry yn awyddus i gael un o'i ddosbarth- iadau allanol ym Môn i arbed teithio drwy rew ac eira i fannau pell o'i gartref ym Methesda. Nid nad oedd yn mwynhau ei ddosbarthiadau yn y lleoedd hynny, ond yr oedd meddwl am deithio'n ôl a blaen iddynt gefn gaeaf yn bryder iddo. Fodd bynnag, fe gytunodd Mrs. Mary Silyn Roberts iddo gael dosbarth ym Môn, a dyna lawenydd i griw ohonom yn Llangefni ei fod wedi cael ei ddymuniad. Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mehefin 1939, yn yr Institute, Llangefni, ond 'roedd y tywydd mor wresog fel iddo effeithio ar y cynulliad. Tri yn unig a ddaeth i'r cyfarfod, Mr. John Griffith Jones, ysgol- feistr Penrallt a chyn-arweinydd Côr Llangefni a chyfaill personol Robert Williams Parry; y Prifardd Edgar Thomas, prifathro Ysgol Ramadeg Llangefni, a minnau. Nid oedd amheuaeth ym meddwl yr un o'r tri ohonom na ddylid gwahodd Williams Parry atom am dymor o dair blynedd gan y gwyddom y câi groeso gan nifer dda. Gwelwyd democratiaeth yn ei grym y noson honno oherwydd inni ddewis ein gilydd yn swyddogion-y Prifardd yn llywydd y dosbarth, John Griffith Jones yn llyfrgellydd, a minnau'n ysgrifen- nydd! 'Roedd gennym ffydd yn ein hachos. *Trwy ganiatâd y "North Wales Chronicle."