Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CLADDU'R PEN Gan ELWYN L. Jones. Ac yna y gorchmynodd Bendigeidfran dorri ei ben "a chymerwch chi y pen," meddai ef, "a dygwch ef hyd at y Gwynfryn yn Llundain, a chedwch ei wyneb tuag at Ffrainc. A chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir; yn Harlech y byddwch saith mlynedd, ar giniaw, ac Adar Rhiannon yn canu i chwi. A'r pen fydd cystal cwmni i chi ag ydoedd pan oedd arnaf fi. Ac yng Ngwales, ym Mhenfro y byddwch bedwar ugain mlynedd Ac yna torrwyd ei ben ef ac y cychwynasant, a'r pen gyda hwy, y saith yma, a Branwen yn wythfed. Ac yn Aber Alaw yn Nhalebolion y daethant i dir. Eisteddasant yno a gorffwys. Edrychodd hi ar Iwerddon. "O Fab Duw," meddai, "gwae fi o'm geni. Dwy ynys dda a ddiffaethwyd o'm hachos i." Rhoddodd uchenaid fawr a thorri ei chalon am y peth, a gwnaethpwyd bedd petryal iddi a'i chladdu yno ar lan Alaw. Dyna fras drosiad o rediad rhan o un o straeon mwyaf diddorol y Mabinogion. Branwen a'i chyfeillion, yn ing eu cof a'u serch yn cludo pen ei brawd, y cawr Bendigeidfran, ar ei gais ef, i'w gladdu yn Llundain. Teithio ar y ffordd yn hir, oedi saith mlynedd i giniawa a chofio yn Harlech, yna oedi pellach am bedwar ugain mlynedd ym Mhenfro, gan ymgysuro ar hyd y daith wrth feddwl fod Bendigeidfran yn dal i'w hysbrydoli trwy'r pen marw. Beth yn y byd sydd a wnelo stori o'r Pedair Keinc â'r W.E.A., meddech chi? Wel, popeth, mi dybiaf. 'Does dim byd newydd ar y ddaear, mewn gwirionedd. Agweddau gwahanol neu estyniadau ar yr un profiadau ydyw popeth a ddigwydd i ddynion ymhob oes. Fel bydd pobl yn mynd yn hyn a chofio, felly hefyd mudiadau, mynd yn hen a chofio'r "gogoniant a fu" ydyw'r peth sy'n naturiol. Dyna a wnaeth Branwen, hithau, sef claddu'r pen a'i gyfystyrru â bywyd ei hun. 'Roedd popeth wedi gorffen; diflanasai'r hen ogoniant gyda marw Brân. Nid oedd iddi hi a'i chyfeillion ran i'w chwarae mwyach. Ei phroblem wirioneddol, serch hynny, oedd dygymod â sefyllfa newydd, ymdrin â phobl newydd na chofient ddim am ei brawd anferth. Eithr mynd at Afon Alaw a wnaeth ac eistedd a chofio, ac yna marw. Gorfod edrych ar sefydliad neu fudiad mewn perygl o'i foddi ym môr materol cyfnod newydd a dieithr, cyfnod anghydnaws o ruthro a thrystio, ac yn ddifater o'r gwerthoedd y saif y mudiad drostynt, dyna'r loes sy'n pigo calon llawer i "flaenor" yn y W.E.A. heddiw. Sut i