Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

thybio mai cam ag eraill fyddai'n digwydd; byddai gwneud oriel anghyflawn o ddiolch yn weithred o ras diffygiol. Ond bu fy nyled iddynt yn fawr. Terfynaf y llith hon trwy ail-bwysleisio fy argyhoeddiad bod dyfodol sylweddol i'r mudiad. Y mae angen mawr am ei ddelfrydiaeth a'i bwrpas gwâr. Bydd cryfhau'r uned a'r cylch lleol yn gyfraniad pwysig i gwrdd ag anghenion modern a sicrhau bod sudd yn y pren. Gobeithio mai dedfryd hanes arnom fydd i ni lwyddo i osgoi'r demtasiwn i deithio yng nghwmni pen marw ac eistedd ar lan Afon Alaw i gofio. ARTHUR TRYSTAN EDWARDS (1884-1972). PENSAER AC ARLOESWR CYNLLUNIO TREFI. Gan R. WALLIS EVANS. GANWYD Arthur Trystan Edwards ar y lOfed o Dachwedd, 1884 ym Merthyr Tudful, yn ail fab i Dr. William Edwards, Arolygwr Ysgolion ei Fawrhydi ac, wedi hynny, Prif Arolygwr y Bwrdd Canol. Addysg- wyd ef yn Clifton a Choleg Hertford, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn Mathemateg. Oherwydd ei ddiddordeb byw yn y celfyddydau gweledol, yn arbennig pensaerniaeth, erthyglwyd ef gyda Syr Reginald Blomfield, R.A. ym 1907, ac ym 1911 ymunodd ag Adran Cynllunio Dinesig Prifysgol Lerpwl. Ym 1915, daeth galwadau eraill ac ymunodd â'r llynges fel morwr cyffredin "dros y brwydro yn unig." Cafodd y profiad hwn gryn ddylanwad ar ei natur sensitif a grymus fel y dengys ei gyfrol o atgofion Three Rows of Stripes, cyfrol a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1929 ond yr ymddangosodd fersiynau newydd ohoni ym 1940 a 1970. Cafodd gymaint o flas ar fywyd y môr nes peri iddo dreulio deuddeng mlynedd o gyfnod heddwch fel morwr cyffredin yn y R.N.V.R. gan gyfrif ei brofiad yn y llynges yn un o brif ddylanwadau diwylliannol ei fywyd. Pan ddarfu'r rhyfel ym 1918, ymunodd â'r Weinyddiaeth Iechyd a oedd yn gyfrifol, yr adeg honno, ymhlith pethau eraill am bolisi tai,