Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDAWNS OPERA. Gan SOPHIA M. WILLIAMS. Nid yw'r ddawns opera a'r ddawns ballet yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd. Ffurfiau artistig tra gwahanol ydynt yn y bôn. Dawns o un math neu'i gilydd yw hâd gynhenid y ballet, ond mae'r opera yn gymhlethdod cywrain o ganu ac actio, o fiwsig ac o ddrama, lle mae'r ddawns yn cynnal a chefnogi yn unig, ac yn ddim ond un o ffurfiau artistig yn y cynnwys. Yn nyddiau cynnar yr opera nid ystyrid cyfansoddi ar gyfer dawnsio yn elfen hanfodol o'r miwsig. Yn "Carmen," er enghraifft, benthycwyd miwsig o weithiau eraill Bizet ar gyfer y dawnsio. Tybid hefyd mai mewn ymateb i gais arbennig, er ei fod yn anfodlon i wneud hynny, yr aeth Wagner ati i gyfansoddi Bachanale yn "Tanhauser" ar gyfer y perfformiad cyntaf ym Mharis. Felly, fel rheol, nid oedd darpariaethau ar gyfer dawnsio i'w cael yn y cyfansoddiadau gwreiddiol cynnar; rhyw frych gynhwysiad er mwyn rhoi mwy o flas theatraidd i'r cyfan oedd miwsig dawns i'r cyfansoddwr. Erbyn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg datblygwyd dawnsio i fod yn ganolbwynt y cyfansoddiad a'r chwarae. Yn operâu Lully a Rameau rhoddir lle arbennig i ffurfiau dawns, megis y "Passa cagua," a threfnwyd yr opera gyfan o'u hamgylch-y miwsig a'r theatr. Un o feistri y cyfnod, cyn belled ac yr oedd y dawnsio yn bod, oedd gẁr o'r enw Vestris. Arferai Vestris greu golygfeydd gormesol a oedd bron yn llethu'r opera gyda dawsio trahaus. "Nid oes lle i rodesa o'r fath yn fy ngweithiau i," oedd ymateb Gluck (cyfoeswr Vestris) "a'r prancio a'r gorymdeithio," gan gyhuddo Vestris o fod yn gyfansoddwr a oedd â'i wybodaeth gerddorol yn ei sodlau." Yn nhyb Gluck, rhyw ffug arddangos oedd y cyfan, ac aeth ymlaen i gyfansoddi miwsig ar gyfer golygfeydd a dawnsio llawer mwy didwyll. Er enghraifft, yn ei opera "Orpheus ac Eurydice" ceir portread real o brofiad trofanus Orpheus yn cwrdd â "Chynddaredd Uffern" yn ei ymchwil am Eurydice. A real iawn yw ei wynfyd wedyn o ganfod Eurydice yn dychwelyd yn llaw'r "Ysbrydion Nefolaidd." 'Roedd Gluck â'i fryd ar ddod â'r ddawns, y ddrama a'r gân yn agos at ei gilydd-ac i berthyn i'w gilydd-heb rwysg na gormodiaeth.