Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN AELWYD. Gan SARAH M. KELLY. Canai Luned yn braf i fiwsig radio ei char tra'n gyrru fel saeth ar hyd y stribyn ffordd arweiniai i lawr at y môr. Edrychasai ymlaen ers dyddiau am y daith hon i ymweld â Marian, a chael gweld ei thy a chyfarfod â'i phlant ac â'i gŵr. Y gŵr a ddylasai fod yn ŵr iddi hi. Ond 'doedd hynny ddim yn bwysig o gwbl, a'r blynyddoedd wedi hen olchi atgofion a theimladau i ffwrdd. Na, cywreinrwydd naturiol merch yn unig oedd ganddi, dim arall: cyfreinrwydd na wnâi niweidio neb, ond a fuasai'n rhoi boddhad di-ben-draw i'w dychymyg a chysidro cymaint y bu'n dyfalu sut fath o gartref oedd ganddo 'fo. Bu'n paratoi drwy'r wythnos am yr ymweliad. Tynnodd allan bob gwisg o'i heiddo cyn penderfynu pa un i'w rhoi amdani, ac er bod digon o ddewis ganddi, taflodd y cwbl heibio a mynd i grwydro'r siopau nes dod o hyd i un oedd yn ei phlesio. Talodd bum punt y bore hwnnw am gael gwneud ei gwallt a rhoi dipyn o liw arno. "Paid byth â gwneud dim byd i dy wallt cofiai i Rheinallt ddweud wrthi. 'Roedd gan ei fam ffrind a ddeuai i'w tŷ yn gyson a lliw ei gwallt yn newid yr un mor gyson, drwy pob haen o'r enfys o oren i biws, a chawsai, yn fachgen ifanc iawn, ragfarn yn erbyn merched yn lliwio'u gwallt. Yn wir, yr oedd gan Rheinallt farn ar bopeth yn gynnar yn ei fywyd. Fel unig fab i deulu ariannog, fe'i addysgwyd mewn ysgolion preifat da yn Lloegr, ac enillodd ynddynt nid yn unig wybodaeth academaidd eithaf trylwyr ond hunan-hyder a lenwai unrhyw fwlch ddigwyddai fod yn aros. Cawsai Luned bob amser y teimlad ei fod yn ei mesur a'i phwyso, ond ni fethodd erioed â dod i fyny â'i ofynion ef na'i deulu. Ac yn awr-nid oedd raid iddi boeni o gwbl, a hithau'n athrawes ganmoladwy a phoblogaidd ar staff ysgol uwchradd o eithaf bri, ac urddas ar bob rhan o'i bywyd. 'Roedd hithau, erbyn hyn, wedi hen fagu hyder. Saesnes oedd Marian, ac er i Luned a hithau gyfarfod unwaith neu ddwy yn y gorffennol, a hoffi'r olwg gyntaf a gawsant ar ei gilydd, ni ddaeth cyfle am adnabyddiaeth agos tan yn ddiweddar. Digwydd- odd hyn rhyw dri mis ynghynt pan ddechreuodd Marian fynychu dosbarth dysgu Cymraeg yr oedd Luned yn mynd â dwy o'i disgyblion iddo. Peth naturiol oedd i Luned wahodd Marian i'w chartref cyfagos