Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Hitia befo! 'Does dim rhaid i ti boeni rwan- rwyt ti'n mynd i'm cael heb orfod fy mhriodi na gwneud jam!" Ar ôl ennyd, ychwanegodd-"A ph'run bynnag, 'tydw' i ddim yn lecio jam cartre!" Cododd Luned ei golwg. "O?" "Nag ydw'- tydi ei safon byth yn gyson: weithiau mae'n rhy denau, ac weithiau mae'n rhy dew, a rhaid ei frolio i'r cymylau sut bynnag Dechreuodd Luned chwerthin. "'Rwyt ti'n pregethu, yn union fel y byddet ti ers talwm "Wel, gobeithio dy fod yn mynd i wrando arna' i o hyn ymlaen!" "Mi gawn ni weld am hynny!" meddai, a pharhau i chwerthin nes bod y llestri'n tincian. COLEG HARLECH. Y mae i mi ddiddanwch, Duw a ŵyr, O ddilyn seminarau cerdd a llên, A miniog allu'r athro'n llorio'n llwyr Bob cred ddisail a phob rhyw syniad hen. Un eirias nwyd ac un uchelgais fud A'n hysa ni 'nôl inni ado'th fron, Cael gweld diflannu annedwyddyd byd A gwneud un seminar o'r ddaear hon Pan ddelo gwasgar blin i gyrrau'r byd Pob un i'w faes, i'w bwll, i'w glwb, i'w ddôl, Ynglwm â ni y byddi di o hyd, A phob rhyw wybod gladdwyd yn dy gôl, A phlyg, o barch, pob Cymro coch o waed Modd plyg Iwerydd fawr i olchi'th draed. OWAIN MADOG WILLIAMS, o'r Highway, 1937-38.