Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan R. H. Rochell. YN y rhifyn diwethaf cawsom erthygl gan y diweddar C. R. Williams, y Golygydd, yn bwrw trem yn ôl ar ei hanes yn y Mudiad Addysg Oed- olion, ac yn mynegi rhai o'i bryderon am ddyfodol Adrannau Allanol y Brifysgol a'r W.E.A. Yn y rhifyn hwn cawn erthygl arall gan Elwyn Jones sydd yn disgrifio amcanion bore oes y W.E.A. a chyflwr y mudiad heddiw a'r ansicrwydd enaid a meddwl ymhlith hynafgwyr sydd o hyd wrth y llyw, neu ar fin ymddeol. Ni chafwyd well cyfaill i'r W.E.A. nac Elwyn Jones yn ystod y blynyddoedd y bu yn gweith- redu mor egniol fel Swyddog Addysg Bellach yr hen Sir y Fflint, ac yn ddiweddar Cyngor Sir Clwyd. Mae'r hyn a ddywedodd y ddau, felly, yn haeddu sylw difrifol. 'Run modd dylid darllen erthygl yr Athro Alun Llywelyn-Williams, sy'n dilyn yr un trywydd. Tybed a ydym yn dod i gychwyn rhyw bennod newydd yn hanes y W.E.A. ac Addysg Oedolion? Yr ydym, beth bynnag, wedi dod i'r amser pan fu nifer o'r hen flaenoriaid, fel eu gelwir gan Elwyn Jones, yn ymddeol. Bydd yr Athro Alun Llywelyn-Williams, Cyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol, Coleg Prifysgol Bangor, yn ymddeol yn y Gwanwyn; bydd Dr. Eirwen Gwynn yn mynd ar ddiwedd y flwyddyn, a minnau ychydig o fisoedd ar ei hôl. Gwelsom golli Syr Ben Bowen Thomas a C. R. Williams ac ymddeoliad Elwyn Jones y flwyddyn ddiwethaf. Collwyd Dafydd Guy o Dde Cymru ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Odid nad yw'r blynyddoedd y bu'r rhai hyn yn rhoi arweiniad i addysg oedolion yng Nghymru yn dangos yn well na dim arall ddull a modd gweithrediad dylanwad cyffredinol addysg oedolion ar ddiwylliant Cymru. Mi gredaf mae'r peth nodweddiadol, a hwyrach y mwyaf dylanwadol, yn hanes y W.E.A. o'r cychwyn hyd heddiw oedd dylanwad personoliaeth arweinwyr y mudiad a'r athrawon. Rhai oeddynt wedi ymgysegru nid yn unig i ddysgu a diwyllio ond i ysbrydoli. I eistedd wrth eu traed 'roeddem yn clywed rhyw "sŵn ym mrig y morwydd, cyn inni deimlo rhyw awel gynnes o wanwyn." Wrth feddwl am fy nyddiau bore yn y W.E.A. cofiaf am huawdledd, dysgeidiaeth a chyfeillgarwch rhai fel yr Athro A. H. Dodd, Dr. Alun