Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. STOROM AWST. Trydydd Gyfrol o Gerddi Dic Jones. Gwasg Gomer 1978. Pris: £ 1.00. Daw teitl y gyfrol o'r soned hyfryd sy'n cyflwyno'r gwaith, soned gwbl nodweddiadol o'r awdur ac adleisiau hyfryd o R. Williams Parry a Shelley yn cyniweirio'n gywrain ynddi. Fe'i dilynir gan awdl Eisteddfod Aberteifi, Awdl y Gwanwyn-campwaith a ddaw â'r gynghanedd yn blwmp i mewn i'r ugeinfed ganrif-yn llefaru o newydd ac eto'n llefaru â'r crefftwaith disglair a nodweddai'r beirdd a fu. Fel y dywed Mr. D. J. Roberts yn ei gyflwyniad, detholiad o gerddi sy'n dangos y bardd "fel disgrifiwr yr olygfa syfrdan" a geir yn y gyfrol. Mae'n "sylwi'n graff ar natur yn ei ehangder cyfareddol a'i manylion gwyrthiol," a gall ddarllen ei gyd-ddyn "yn synhwyrus a thirion." Dyma gynhaeaf Dic Jones "ar ei brydferthaf a'i felysaf." Cyflwynir y gyfrol i'w fab Brychan ac i goffadwriaeth Alun Cilie, a cheir yn gynnar yn y casgliad gerdd fach swynol i'w fab sy'n treiddio i fyd y plentyn ac yn dwyn naws a hyfrydwch y wlad gan mor syml a diwastraff ydyw, Pwy fynd i'r ysgol yn yr haf A dyna'r gerdd i'r Eingion a Chwyn Mam at y Prifathro a'r englyn hynod o gynhwysfawr i'r môr. Pwy na welodd A ni ar ddechrau'r tywydd braf? Pwy wrando athro o fore hyd nos A deryn du ym Mharc Dan Clos? Pwy eiste' i lawr, â'r drws ar gau, A Dad yn disgwyl help i hau? Pwy adael Ffan o naw hyd dri Heb neb i chwarae gyda hi? Diaros aros o hyd y mae'r môr A "mynd" yn ddisymud, Yn ei unfan o'r cynfyd, Ac eto'n gyffro i gyd. Bois yr Hewl yn hala wsnoth I darro'r ffordd ar bwys Rehoboth, Torri cwter yno dranno'th?