Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ben hynny i gyd, mae'n stori dditectif gwbl gredadwy. Dywed yr awdur ei hun: "Gallasai'r helyntion yma yn hawdd iawn fod wedi digwydd i mi fy hun, ysywaith, gan i mi droeon deimlo fel mwrdro rhai o dro i dro, ac y mae'n sicr ddigon y bu i'r darllenydd deimlo yr un fath." Dyma drydedd nofel yr awdur: gwelsom eisoes Gwaed ar y Grug, a'r Deimwnt Coch sydd yn ddigon o warant i'w ddawn a'i fedrusrwydd. Cefndir chwarel lechfaen sydd i'r gyfrol hon, hithau, a hynny'n ddigon naturiol gan i'r awdur dreulio'r rhan helaethaf o'i oes yn y ehwareli-Chwarel Penyrorsedd yn Nyffryn Nantlle a Chwareli Maenofferen a'r Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Mae'n stori sy'n gafael ac yn argyhoeddi, ac y mae'n hynod o ddarllenadwy. R. WALLIS EVANS. HYN A'R LLALL. T. Ceiriog Williams. Gwasg Gomer. Pris: £ 1.10. Mae'n bur anodd, erbyn hyn, ddatgystylltu Mr. T. Ceiriog Williams â Daniel Owen. Mae ei wybodaeth amdano yn gyfryw fel mai go brin fod unrhyw ffaith amdano, bellach yn anwybyddus iddo. Un o'i hoff ddyfyniadau o waith Daniel Owen yw'r frawddeg "Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais, ond i'r dyn cyffredin," a gellir cymhwyso'r gosodiad yn berffaith i'r gyfrol hon. Hanes profiad a bywyd yr awdur a geir ynddi, ond, nid bywgraffiad ffurfiol mohoni o bell ffordd. Ceir ynddi bortread o fachgen ieuanc nwfus, llawn direidi a hwyl yn fab i siopwr na allai yn amser diweithdra a chaledi "wrth- sefyll tafod fêl y trafaelwr, a'i apêl daer am "just un archeb fechan". — Cilio a wnâi a gadael nodyn yn y siop. 'Roedd ganddo ddwy chwaer a thri brawd a mawr oedd yr hwyl a gaent efo'i gilydd. Aeth un o'r brodyr yn genhadwr i Fryniau Lushai. Cafodd hwyl yn y Coleg a diddorol yw'r modd yr aeth yno wedi cribinio'r siop am reidiau bywyd cyn cychwyn. Ceir darluniau byw o rai o'i athrawon yno, megis Syr John Morris Jones, Syr Ifor Williams, ac R. Williams Parry, bawb â'i ddull ei hun o drosglwyddo gwybodaeth-a dyna'r anfarwol Sam Jones cyd-fyfyriwr iddo a osododd ei ddelw ar fechgyn y Coleg, Cymry Lerpwl à Chymry Cymru benbaladr wedi hynny. Hynod o werthfawr yw ei sylwadau ar ei brofiadau fel athro a phrifathro yn Lerpwl, yn Abergele a'r Wyddgrug. Mae môr o synnwyr cyffredin a doeth- ineb ynddynt a all fod o werth amhrisiadwy i bob darpar-athro. Deil i gael blas ar fyw a gall gyflwyno asbri a chyfoeth bywyd i'w ddarllenwyr-bywyd a fyddai'n dda ganddo fyw eilwaith er mwyn gallu derbyn her y presennol. "Gwyn fyd," meddai, "y rhai a gaiff y fraint o greu y Gymru newydd." Cafodd yntau'r fraint eisoes o osod rhai o'r sylfeini. Mae'n gyfrol hyfryd i'w darllen â graen Gwasg Gomer arni fel ar bob un o gyfrolau'r Wasg glodwiw honno. R. Wallis Evans.