Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LECTURES ON PHILOSOPHY. Simone Weil. Wedi eu cyfieithu gan Hugh Price a chyda Rhagymadrodd gan Peter Winch. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1978. Ni nodir y pris. Dyma gyfrol eithriadol o ddiddorol wedi ei seilio ar nodiadau manwl a gadwyd gan Anne Reynaud-Guérithault, aelod o ddosbarth Simone Weil pan draddododd hi gyfres o ddarlithiau yn y Lycée i ferched yn Roanne ym 1933-4. Myn Madame Reynaud-Guérithault mai nodiadau brysiog efrydydd ydynt ac nas cofnodir y darlithiau air am air, ond, y mae'r nodiadau'n hynod o gynhwys- fawr a cheir ynddynt gipolwg rhyfeddol o fyw o Simone Weil fel athrawes. Fe'i clywn hi wrthi'n olrhain hanes meddylwyr mawr y byd ac yn eu cyflwyno i'w dosbarth a cheir adlais o'i hyfforddiant hi ei hun fel athronydd. Bron na chlywn dinc digamsyniol ei llais a grym ac uniongyrchedd ei meddwl. Fe'n trewir, hefyd, gan ehangder ei gwybodaeth ac eglurder ei mynegiant a'i dawn anhygoel i gydio maes wrth faes yn gwbl ddiymdrech. Dyma gyflwyniad penigamp i fyd athroniaeth yn gyffredinol, gan gynnwys problemau yn ymwneud â chanfyddiad, meddwl, iaith ymresymu ynghyd ag athroniaeth foesegol a gwleidyddol. Mae'r cyflwyniad yn gyfuniad hapus o ddadlau haniaethol, profiad personol a chyfeiriadau llenyddol a hanesyddol- dull cwbl nodweddiadol o Simone Weil ei hun. Mae rhagymadrodd Peter Winch, yn gaffaeliad ac yn hynod o werthfawr a threiddgar. Olrheinir rhai o'r elfennau cysylltiol sydd yng ngwaith athronyddol Weil a'r berthynas rhwng ei syniadau athronyddol a'i gweithgar- eddau eraill. Awgrymir hefyd nifer o gymhariaethau diddorol rhwng ei hathroniaeth hi ac athroniaeth Wittgenstein. Rhennir y gwaith yn bum pennod — Y safbwynt materol, Wedi darganfod meddwl, Gwleidyddiaeth a Damcaniaethu Cymdeithasol, Etheg ac Aestheteg, ac Amryw Bynciau a Chynlluniau ar gyfer Traethodau. Mae'r adran ar Etheg ac Aestheteg yn hynod o amserol. Mae diwyg y gyfrol yn ddiogel yn nhraddodiad crefftus a glân Gwasg Caergrawnt, a chyhoeddir y gyfrol mewn clawr papur a chlawr caled. R. Wallis Evans.