Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYRIL RAYMOND WILLIAMS. 1913-1979. Gan ALUN Llywelyn-Williams. Fe*n syfrdanwyd, bawb ohonom, gan farwolaeth ddisyfyd C. R. Williams ar Ebrill 30 eleni. 'Roeddwn i'n ymddeol y diwrnod hwnnw. 'Roedd Cyril (C.R. fel y'i gelwid ef yn annwyl gan ei gymrodyr) wedi ymddeol, cyn bod rhaid iddo, dair blynedd yng nghynt a symud o Fangor i Brestatyn i fyw, ond 'doedd hynny wedi mennu dim ar y gyfathrach agos a fu rhyngom am dros ugain mlynedd a mwy, ac ni wnaeth fawr o wahaniaeth i'w berthynas â'r Adran Allanol y bu'n ei gwasanaethu cyhyd mor ddiwyd a chyda'r fath arddeliad. 'Roeddwn i, a'm cymrodyr oll, yn edrych ymlaen at fwynhau ei gyngor a'i gwmni a'i gyfeillgarwch am lawer blwyddyn ddedwydd i ddod ac yr oedd ei gipio mor annisgwyl o'n plith yn ergyd ysgytiol inni i gyd. Gymaint tlotach fydd ein bywydau ni, ei gymrodyr a'i lu cyfeillion, o'i golli ef. O Goleg Abertawe y daeth C.R. atom ni ym Mangor. Fe'i penodwyd i'r Adran Allanol ym 1957, yn diwtor preswyl yn y Rhyl a Sir Fflint, a'i ddyrchafu'n Uwch-diwtor ddeng mlynedd yn ddiwedd- arach. Cyn dod atom buasai'n diwtor preswyl am gyfnod yn Llanelli, lle bu'n hapus iawn ac yn dra llwyddiannus yn ei waith. Ond credaf ei fod yn falch o'r cyfle i ddychwelyd i'r gogledd am ei fod felly'n dod adre'n ôl i'w gynefin lIe y daeth gyntaf i gysylltiad, yn llanc ifanc mewn dosbarth yn Nhrelogan, â'r W.E.A. ac â gwaith y Brifysgol a Choleg Harlech ym myd addysg y werin. 'Roedd y cyfnod hwnnw rhwng y ddau ryfel byd yn fath o oes aur yn hanes y mudiad addysg oedolion, a thaniwyd dychymyg gwyr ifainc dawnus a hael eu hysbryd fel C.R. gan ddelfrydau aruchel y mudiad hwnnw. Aeth i Goleg Aberystwyth i ddarllen hanes ac economeg ac yno cyfarfu ymysg ei gydfyfyrwyr hŷn â rhai o'r dynion hynod hynny a oedd eu hunain yn gynnyrch mudiad addysg y gweithwyr. Dyna'r adeg, 'rwy'n credu y penderfynodd C.R. y carai yntau chwarae'i ran yng ngwasanaeth y dosbarthiadau er na chafodd ymrwymo'n diwtor amser llawn hyd ar ôl'y rhyfel. Yn rhifyn diwethaf Lleufer, mewn ysgrif gyda'r teitl "Dishgwl 'n 01," sy'n gwbl nodweddiadol o'i ddawn i ddifyrru ac addysgu'r un