Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'lnderal' LA, unwaith y dydd i drin gorbwysedd a chur dwyfronnol Propranolol Hudroclorid BP Effeithiol am 24 awr y dydd Gwybodaeth ragnodi datfyredig. Cyflwyniad: Capsiwlau hir-effaith, gyda 160mg 0 bropranolol hudroclorid BP ymhob un. Defnydd: Rheoli gorbwysedd gwaed. Trin y cur dwyfronnol, pryder a chryndod o hanfod. Triniaeth atodol gorthurodedd. Triniaeth glwy-rwystrol i'r meigryn. Dognau: Oedolion; 1 neu 2 gapsiwl unwaith y dydd. Plant; anaddas i blant. Gocheliadau: Atal-ddarglud y galon. Caethdra anadl. Ympryd hir. Asidosis metabolaidd. Yr un pryd â ferapamil. Gofal: Calon-fethiant nas triniwyd. Curiad araf. Atal clonidin. Anestheteg. Beichiogrwydd. Sgil-effeithiau Aelodau oerion, pwys, diffyg cwsg, blinder a dolur rhydd, fel arfer dros dro'n unig. Gwelwyd ambell achos o binnau bach yn y dwylo, brechau ar groen a llygaid sychion wrth ddefnyddio ß-rwystryddion. Dylid ystyried atal y cyffur os gwelir y rhain. Dylid rhoi'r gorau i S-rwystryddion yn raddol. Gor-ddogni: gweler y daflen wybodaeth. Cost sylfaenol i'r Gwasanaeth lechyd: Pecyn 28 diwrnod £6.66. Rhif trwydded y cynnyrch: 0029/0128. Y mae 'lnderal LA' yn nod marchnata gogyfer â phropranolol hudroclorid mewn cyflwyniad hir-effaith. Gellir cael mwy o fanylion gan: Imperial Chemical Industries PLC., Adran Fferyllol, Alderley House, Alderley ParK Macclesfield, Sir Gaer. SK10 4TF.