Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodyn Golygyddol Yn y rhifyn hwn o Cennad, ceir peth o ffrwyth Cynhadledd Un Pwnc gyntaf y Gymdeithas, sef Cynhadledd Clefyd y Galon. (Yn anffodus, ni lwyddodd pob un o'r darlithwyr i roi ei ddarlith ar bapur; gresyn mawr am hynny.) Un peth sy'n amlwg yn y tair erthygl o'r Gynhadledd honno yw pwysigrwydd meddygaeth clwy-rwystrol, o'i gymharu â meddygaeth drin afiechydon. Rhaid chwilio am orbwysedd gwaed, a'i drin os oes angen: rhaid chwilio am y bobl hynny losgant ddeupen y gannwyll, a'u harafu: rhaid newid y bwyd fwyteir gan y boblogaeth, a chanolbwyntio fwyfwy ar fwydydd cyflawn ac osgoi'r bwydydd 'parod', hawdd eu paratoi. Mewn gair, rhaid addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd y pethau hyn, a phwysigrwydd ymwrthod ag ysmygu, osgoi corffogrwydd, sicrhau digon o orffwys ac ymarfer y corff, ac yn y blaen. Gwaith araf, ond holl-bwysig. Gwaith sydd fwy ym maes llafur y meddyg teulu a'i dîm nac o fewn maes llafur gweithwyr yr ysbyty. Dylid manteisio ar bob cyfle i bregethu'r neges hon; yn y feddygfa, mewn gwahanol gymdeithasau, ar y cyfryngau, a thrwy esiampl. Tueddir, o bosibl, i anghofio'r agwedd olaf hon, ond gwylia'r cyhoedd y meddyg â llygad barcud, ac os ysmyga ef, nid yw ei gleifion am roi llawer o bwys ar ei ymgais i'w rhwystro hwy rhag ysmygu. Ein dwylo ni, feddygon, sydd ar gyrn yr aradr, rhaid i ni ddilyn ymlaen i ben y gwys. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, daeth y gyfrol flynyddol honno, 'Y Cyfeiriadur Meddygol', ('Medical Directory') i law. Wrth edrych drwyddi, sylwyd ar un peth trist: ni welwyd enw'r Gymdeithas Feddygol yno o gwbl, ymron. Nid oes un ohonom â digon o falchder o'n Cymdeithas i'w harddel ar goedd yn y byd meddygol Prydeinig. Neu, ai heb feddwl am y peth yr ydym? Pan ddaw'r daflen nesaf i'w llenwi ar gyfer y gyfrol hon, cofiwch am y Gymdeithas Feddygol wrth gyflawni'r gorchwyl, a chyn ei hanfon yn ô1. Da oedd derbyn llyfryn, o Iwerddon, yn ddiweddar, sef Acta Medica Gadelica, cylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Wyddelig. Y Golygydd yw Dr Liam Ó Sé. Cylchgrawn dwyieithog yw Acta Medica Gadelica. Ar ddiwedd pob un o'r erthyglau, rhoddwyd crynodeb o'r cynnwys yn Saesneg. Y mae nifer o hysbysebion yn y cylchgrawn hefyd. Siom fawr iawn oedd gweld fod rhai ohonynt yn uniaith Saesneg. Tybed a yw profiad y Gwyddel yn wahanol i un y Cymro, ac y caiff fwy o drafferth i berswadio'r cwmnïau i hysbysebu yn iaith y cylchgrawn? Y mae eraill o'r hysbysebion yn ddwyieithog, gyda manylion rhagnodi'r cyffur yn Saesneg.