Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiadau diweddar yn y driniaeth o Glefyd y Galon Dr David Owens Afiechyd pwysicaf y bywyd modern yw afiechyd y galon, ac o'r amryw clefydau'r galon, y pwysicaf yw atheroma yn culhau rhydweliau gludant waed ac ocsigen i gyhyryn y galon, y muocardiwm. Canlyniad hyn yw fod tua chan mil o bobl y flwyddyn yn marw ar ôl cnawdnychiad y galon, rhai heb rybudd, eraill ar ôl dioddef o gur dwyfronnol am beth amser. Dengys yr ystadegau fod y clefyd hwn yn fwy cyffredin yng Nghymru a'r Alban nac yng ngweddill Prydain: ac yng Nghymru, beth bynnag, nid yw'r cyfleusterau sydd ar gael i gynnig triniaeth i'r cleifion hyn cystal ag ardaloedd eraill Prydain. Er bod llawer o ddatblygiadau newydd mewn triniaeth clefyd y galon, y mae'r driniaeth yn aml yn rhy hwyr i glirio'r afiechyd a gwella'r claf yn gyfan gwbl. Felly, credaf fod yn rhaid edrych fwyfwy ar atal yr afiechyd hwn yn hytrach na chwilio am driniaeth newydd, na all fyth gael gwared â'r broblem, oherwydd fod y niwed wedi digwydd cyn y gellir cynnig triniaeth fel hyn. Y gelyn pennaf yn y cyswllt hwn yw atheroma. Y pedwar ffactor pwysicaf i beri atheroma yw ysmygu, gorbwysedd gwaed, swm uchel 0 lipid yn y gwaed, a'r troethlif melys. Nid yw'r ffactorau eraill, megis byw mewn ardal dwr meddal, yfed coffi, tyndra, corffogrwydd, ac yn y blaen, mor bwysig. Eleni, disgrifiodd Kaufman, ac eraill, astudiaeth yn dangos cysylltiad rhwng ysmygu a chnawdnychiad y galon.2 Dengys y ffigwr cyntaf y canlyniadau. FFIGWR 1. Cysylltiad rhwng ysmygu a chnawdnychiad y galon Kaufman ac eraill New England J. Med 308, 409 1983 Ysmygu Perygl 25/d 2.1 25-45/d 2.8 40/d 4.0 Astudiaeth yn cynnwys 502 o gleifion gyda chnawdnychiad y galon a 835 heb ddim. Cynydda'r perygl wrth i'r cleifion ysmygu mwy, ond diddorol yw sylwi nad oes cysylltiad rhwng y perygl a faint o nicotin neu garbon monocsid oedd yn y sigarennau, ac a anedlid gan yr ysmygwr. Felly, efallai y dylai pob meddyg roi cyngor i bawb roi'r gorau i ysmygu, a phwysleisio nad yw'r sigarennau a swm isel o dar ynddynt mor ddiogel ag yr haera'r cwmniau tybaco, wedi'r cyfan. Eleni, hefyd, cyhoeddwyd papur, gan Willett ac eraill, yn dangos effaith