Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

galon. Ymhob claf mesurwyd faint o atheroma oedd yn bresennol, gan gymharu hyn â lefelau lipid yn eu gwaed. Dengys ffigwr 4 y canlyniadau. FFIGWR 4. Perthynas rhwng lipid y gwaed ac atheroma rhydweliau'r galon Cabin Amer. J. Med. 73. 227. 1982 Astudiaeth ôlfarw 40 claf I II III IV Colestrol (mg %) 250 250 250 250 Trigluserid (mg %) 170 170 170 170 Atheroma drwg 34% 69% 41% 48% Yn y Lancet eleni, dangosodd Simpson ac eraill fod lefel Ffactor X a ffibrinogen yn codi, a gweithgaredd ffibrindoddiad yn gostwng, pan fo'r lipid i fynys, ac y gall yr effeithiau hyn arafu cylchrediad y gwaed a gwaethygu atheroma. Dangosodd Nash ac erailF, mewn astudiaeth y llynedd, gan ddefnyddio angiograffeg ar 42 o gleifion, fod bwyd arbennig a chyffuriau gostwng lipid yn y gwaed yn arafu datblygiad atheroma rhydweliau'r galon. Awgryma hyn nad yw byth yn rhy hwyr i gynnig triniaeth o'r fath i'r cleifion anffodus hyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lluniwyd damcaniaeth newydd i geisio esbonio pam y datblyga rhai orbwysedd gwaed. Y ddamcaniaeth yw fod pwmp sodiwm y celloedd, yn cynnwys celloedd cyhyrau'r rhydweliau, yn methu cadw'r cydbwysedd rhwng y swm o sodiwm yn y celloedd a'r swm o'r tu allan. (Ffigwr 5). Canlyniad hyn yw cynnydd yn swm y sodiwm yn y celloedd, a hynny efallai'n effeithio ar lefel calsiwm yn y celloedd, a hynny, yn ei dro, yn peri i gelloedd cyhyrau'r rhydweliau dynhau a chodi pwysedd y gwaed. Dangosodd Beretta-Piccoli ac eraill8 fod lefel y sodiwm yn y celloedd yn uchel mewn cleifion a gorbwysedd gwaed arnynt, ac awgryma Devynck ac eraill9 mai'r rheswm am hyn yw fod molecylau tebyg i ddigocsin yn bresennol yng ngwaed y cleifion hyn a'u teuluoedd, a bod y rhain yn amharu ar y pwmp sodiwm, a gorbwysedd yn dilyn hynny. Ymddengys fod cyffur cymharol newydd, sef niffedipin, yn gostwng pwysedd y gwaed, a hynny, efallai, am ei fod yn cywiro lefelau calsiwm yn y cyhyrau lefelau afnormal am y rhesymau uchod. Canlyniad gorbwysedd, ysmygu a lefelau lipid uchel yn y gwaed, yn aml, yw atheroma rhydweliau'r galon a chur dwyfronnol. Y cyffuriau pwysicaf a ddefnyddir i wella'r cyflwr hwn yw niffedipin, nitrad a'r 6-rwystryddion. Un fantais o ddefnyddio niffedipin yw fod hwn yn fwy effeithiol na'r gweddill i lacio tyndra yn y rhydweliau pan fo'n bresennol, a hynny, wrth gwrs, yn lleddfu'r cur dwyfronnol. Ni wyr neb yn iawn sut y gweithreda'r ddau deulu arall o gyffuriau,