Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ond fod y ddau'n gostwng angen y muocardiwm am ocsigen, efallai trwy leihau'r gwaith wna'r galon. Dan ddylanwad y cyffur hwn, nid oes cymaint o angen tanwydd ac ocsigen ar y galon, ac felly, lleddfir y cur dwyfronnol. FFIGWR 5. Digitalis/Ouabain yn amharu ar y pwmp. Moleculau tebyg yng ngwaed cleifion gorbwysedd gwaed a rhai aelodau o'r teulu. FFIGWR 6. Aspirin yn diogelu rhag cnawdnychiad y galon a marwolaeth sydyn mewn cleifion a chur dwyfronnol ansefydlog Lewis New England J. Med. 309. 316. 1983 Cur dwyfronnol 1266 (j 625 Aspirin 325 mg) 641 (boddlonydd) Marwolaethau 10* 21 Cnawdnychiad y galon (heb farw) 21 44 Dengys ystadegau fod tua 5% o gleifion o'r cur dwyfronnol yn dioddef cnawdnychiad y galon bob blwyddyn. Eleni, dangosodd Lewis ac eraill fod llai o gleifion o'r cur dwyfronnol yn dioddef cnawdnychiad y galon ar ôl iddynt gymryd un aspirin (300mg) y dydd. (Ffigwr 6). Allan 0 1266 o ddynion gyda chur dwyfronnol ansefydlog, cafodd 625 ohonynt aspirin a 641 foddlonydd. O'r grwp fu'n llyncu aspirin, dim ond deg fu farw (o'i gymharu ag 21 yn y grwp arall) ac 21 yn dioddef cnawdnychiad y galon, (o'i gymharu â 44 yn y grwp fu'n cymryd boddlonydd). Y mae'r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.