Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn anffodus, ychydig iawn o gleifion o'r cur dwyfronnol gânt wared â'u sumtomau'n llwyr ar ôl triniaeth â niffedipin, nitrat, neu 6-rwystrydd. Dylid felly, ystyried triniaeth lawfeddygol o bob un o'r rhain. Yn y driniaeth hon, gosodir gwythïen o'r goes ar draws y rhydweliau cul, gan arwain y gwaed heibio i'r mannau cul ac ymlaen i'r muocardiwm, (Ffigwr 7). Dengys ystadegau fod y driniaeth hon yn gymharol lwyddiannus a diogel, (Ffigwr 8). Yn y wlad yma, ac ar y Cyfandir, mae'r marwolaethau fis ar ôl y driniaeth yn isel, yn llai na 2-3%. Caiff tua 5% gnawdnychiad y galon ar ôl y driniaeth, ond fel rheol, nid un farwol. Un rheswm am hyn yw fod y rhan fwyaf o'r cleifion mewn uned gofal trwyadl yn barod, gyda chymorth a thriniaeth yn agos. Caiff tua 60% wared â'r cur dwyfronnol yn gyfan gwbl, a thua 25-30% arall yn well na chynt. Nid yw'r ystadegau cystal ar ôl rhoi'r driniaeth i ferched, gan fod eu rhydweliau hwy yn gulach a gwaith y llawfeddyg, o'r herwydd, yn anos.11 Yn anffodus, mewn rhai achosion, gwelir yr impiad yn culhau a chau, ond nid yw hynny mor debygol o ddigwydd os yw'r cleifion yn cael warffarin, Persantin neu swlffinpurason ar ôl y weithred lawfeddygol.12 Aiff amryw o'r cleifion hyn yn ôl i weithio a byw bywyd naturiol ar ôl hyn. Fodd bynnag, dychwel y cur dwyfronnol i rhwng 2% a 4% o'r cleifion bob blwyddyn. FFIGWR 7.