Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Atgofion llawfeddyg Edgar W. Parry Meddai Winston Churchill un tro, "Rhaid edrych ymhell yn ôl er mwyn edrych ymhell ymlaen". A dyna a geisiaf ei wneud, edrych yn ôl, a cheisio awgrymu beth sydd i ddod, er mor anodd yw hynny. Erbyn heddiw, y mae edrych bum mlynedd yn ôl yn y byd meddygol yn dangos newidiadau mawr iawn. Hawdd iawn y gellir amgyffred, felly, y newidiadau ddigwyddodd yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, sef fy ngyrfa lawfeddygol i. Ym 1952-53, ymchwilydd yn Adran Llawfeddygaeth, Prifysgol Bryste, oeddwn, dan adain yr Athro Robert Milnes Walker. Yr oedd gan yr Adran ddiddordeb mawr mewn llawfeddygaeth waedlestrol, gan gynnwys effaith pwysedd gwaed uchel, yn y gyfundrefn borthol, ar yr iau, a cheisio lliniaru a rhwystro gwaedu o ben isaf y sefnig. Datblygodd y driniaeth o uno'r wythïen borthol a'r brif wythïen isaf i oresgyn y broblem hon, er na wnâi ddim i unioni'r nam sylfaènol, sef cymyliad yr iau. Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith yn yr adran i astudio ceulad gwythiennol, ym mha ran bynnag o'r corff y datblygai. Yn y maes hwn y cefais i'r fraint o ymgolli am gyfnod. Yr oedd y blynyddoedd hyn yn rhai o arbrofi mawr ym myd llawfeddygaeth y galon, nid yn unig yng ngwledydd Prydain, ond mewn mannau eraill hefyd. Eisoes, yr oedd y weithred o gau ductus arteriosus yn llwyddiant, a hefyd dorri'r culni cyfagos, y crebachiad aortig, ymaith. Rhaid oedd, wrth gwrs, bwytho dau ben y toriad gyda'u gilydd; yn sgîl hyn, datblygai'r dechneg o uno gwaedlestri'n raddol. Yr afiechyd nesaf i fynd â bryd llawfeddygon oedd culhad mitrol. Unwaith y sylweddolwyd bod modd i'r corff wneud heb gylchrediad gwaed am ychydig eiliadau, yna mater cymharol hawdd oedd unioni'r cam hwn. Rhaid oedd agor mur yr atriwm chwith, ac yna, o fewn amser byr iawn, rwygo'r asiadau annormal rhwng rhannau'r falf fitrol. Er symled y weithred hon, yr oedd ei heffaith yn bellgyrhaeddol, ar y galon, ar y corff, a hefyd ar lawfeddygaeth yn gyffredinol. Y mae'n bwysig iawn cofio mai llawfeddyg cyffredinol oedd Milnes Walker, ond er hyn yr oedd ei gyfraniad i lawfeddygaeth waedlestrol yn amhrisiadwy. Tua'r un amser, yr oedd Ronald Edwards, yn Lerpwl, a Blalock a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol John Hopkins yn yr Unol Daleithiau, yn ailedrych ar afiechydon calon plant, yn enwedig yr afiechydon cynhwynol. O ganlyniad i'w hastudiaethau hwy, llwyddwyd i gynnig triniaeth i'r 'babanod glas'. Un cam ymlaen oedd gwaith Gross, yn Boston, a ddefnyddiodd impiad artiffisial am y tro cyntaf i drin dyn. Defnyddiodd ef bibell neilon i lenwi'r bwlch rhwng dau oen yr aorta ar ôl torri crebachiad yr aorta allan. Er mor dyngedfennol oedd y weithred hon, nid hwn oedd yr impiad cyntaf.