Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

broblem, i raddau pell iawn, trwy greu ffistwla rhydweli-wythiennol uwchben y ffêr. Llawforwyn i'r datblygiadau hyn mewn triniaeth yw'r datblygiad mewn dulliau archwilio. Celficyn tra defnyddiol i archwilio'r cylchrediad yw uwch-swn. Gall hwn, gydag offer arbennig, fesur maint rhydweli, mesur llif y gwaed trwy'r llestr, neu fesur pwysedd gwaed mewn rhydweliynnau. Mesur arall defnyddiol iawn yw mesur gludedd y gwaed, neu'r plasma. Rhydd hwn awgrym cryf iawn o allu'r gwaed i lifo trwy'r rhydweliynnau a'r capilariaid bychain. Un o'r elfennau effeithia ar ludedd y gwaed yw'r celligoedd. Os tuedda'r rhain i lynu'r naill wrth y llall, cynydda'r gludedd. Yn ogystal, gweithreda'r celligoedd fel peirianwaith i drwsio mur y gwaedlestri ar ôl niwed, hynny yw, yn y rhydweliau a'r gwythiennau iach. Ond os nad yw'r gwaedlestri'n holliach, gall y celligoedd lynu ar y rhan o'r mur sy'n afiach, ac efallai gychwyn y broses o atheroma, all, ymhen y rhawg, gau'r rhydweli'n gyfan gwbl. Dengys gwaith cymharol ddiweddar fod aspirin a deupurimadol yn gwrthweithio'r effaith hon, mater o galondid i bawb. Yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, bu newidiadau mawr ym myd llawfeddygaeth gwaedlestri. Taflwyd golau ar aml i hen broblem, a daeth problemau newydd i'r amlwg. Gwelwyd datblygiadau cyffrous mewn rhai meysydd, ond siomiant mawr mewn meysydd eraill. Yn sicr, nid oes le i feddygon orffwys ar eu rhwyfau Nid da lle gellir gwell'.