Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Myfyrdodau ar weithio yn Ne Affrica Dr Glyn J. Elwyn Aur y byd, ei berlau mân, haul, ac anghyfiawnder. Dyna ran o'r gymysgedd welir yn Ne Affrica. Darganfyddwyd aur ar y Witwatersrand ym 1886, a thyfodd tref fwyngloddio, hollol anhrefnus, yn gyflym iawn ar y safle. Enw'r dref heddiw yw Johannesburg. Fel gwenyn at fêl, daeth y bobl i'r rand. Yn y dyddiau cynnar, yr oedd amodau gwaith pawb, pa liw bynnag oedd y croen, yn hynod o galed; rhaid oedd i bawb ymochel mewn cytiau, na fwriedid iddynt barhau'n hir. Ond fesul tipyn, yn ôl arfer y Volkraad, (hen Weriniaeth De Affrica), clustnodwyd rhannau o'r wlad, i'r gorllewin o Johannesburg, ar gyfer y "Coolies and Arabs", a, maes o law, yno y gosodwyd y croenddu. Erbyn 1897, prin ddeng mlynedd ar ôl darganfod aur, sefydlwyd gwersyll i ddynion duon. Amodau cyntefig iawn oedd yno, gyda phedair mil yn defnyddio un tap dwr, yn cysgu mewn cytiau gorlawn, a heb garthffosiaeth o fath yn y byd. Dyma sefydlu un o dreflannau answyddogol De Affrica, Soweto. Daw'r enw o ddwy lythyren gyntaf y tri gair, SOuth WEst TOwn. Y mae datblygiad Soweto'n gymhleth iawn, ond yn sylfaenol, ymateb y gweithiwr du i'r angen am gysgod oedd. Cyflogid mwy a mwy o ddynion duon o'r ardaloedd gwledig yn y mwynfeydd aur, ond ni ddarperid llety ar eu cyfer. Weithiau, byddai'r Llywodraeth yn Pretoria yn ymateb i'r galw am dai, ond heb ryw lawer o frwdfrydedd. Felly, tref sianti, ffwrdd â hi, dyfodd yn raddol yw Soweto. Gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf, cynyddodd y galw am lafur dynion; aeth y diwydiant aur o nerth i nerth. Yn sgîl hyn, tyfodd y boblogaeth ddu. Fodd bynnag, yng ngolwg y Llywodraeth, gweithwyr dros dro oedd y rhain, a pharatowyd deddfau i sicrhau nad oedd yn hawdd iddynt ymsefydlu yn Johannesburg. Ym 1923, pasiwyd deddf orfodai'r dyn du i gario hawl-lyfr (pass-book) gydag ef i bobman. Cofnodai'r llyfryn hwn hawl y dygedydd i weithio, ac felly, ei hawl i fyw mewn ardal arbennig. Ni ddiddymwyd y ddeddf hon. Yn ymateb i'r galw am fwy o weithgaredd diwydiannol ddaeth gyda'r ail ryfel byd, daeth llif arall o weithwyr i Soweto. Erbyn 1944, trigai 400,000 ar y llecyn anial ddeuddeng milltir i'r de o Johannesburg. Ni fu cynllunio tai ar eu cyfer, ac nid oedd ganddynt gyfalaf i adeiladu eu hunain. Yng ngolwg y Llywodraeth, dyn fyddai'n teithio'n ôl ac ymlaen rhwng y dref a'r wlad, fel y byddai'r angen, oedd y dyn du. Nid oedd hawl ganddo i sefydlu cartref, ac nid oes ganddo hawl i feddiannu tir hyd heddiw. Elfen hanfodol cynlluniau'r Llywodraeth wrth adeiladu tai oedd mai rhai dros dro'n unig oeddynt. Nid oedd brys i sicrhau fod cyflenwad trydan i'r tai, nac ychwaith i galedu'r ffyrdd o'u cwmpas. Ar waethaf hyn, bellach magwyd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o drigolion yn Soweto, fel ag y mae. Dengys geiriau Mr M.C. Botha, Dirprwy Weinidog yng Ngweinyddiaeth y