Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Albert Baragwanath, o Gernyw, oedd y safle'n wreiddiol, ond datblygwyd ysbyty filwrol yno adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, addaswyd yr adeiladau ar gyfer y boblogaeth ddu oedd gerllaw. Ymestyn yr adeiladau heddiw dros 150 erw yn wardiau hir oer, wedi eu cysylltu gan goridoriau awyr agored. Problemau iechyd tra gwahanol i rai Prydain a welir yno; y mae'r ddarfodedigaeth, niwmonia, clefyd gwynegol y galon a'i effeithiau yn gyffredin iawn. Gwelir clefyd yr iau, yn enwedig y cymyliad alcoholaidd, a chlefydau'r ysgyfaint, yn arbennig effeithiau mwyngloddio ac ysmygu, yn aml iawn. Y rhain yw clefydau amlycaf y dyn du adawodd ei wlad i chwilio am fywoliaeth yn y ddinas. Fodd bynnag, ar waethaf problemau meddygol y boblogaeth, gwir ganolfan yr ysbyty yw'r adran ddamweiniau. Ar nos Wener, ac yn arbennig ar nos Wener cyflog, daw'r cannoedd yno fel o ryfel. Ymddengys tua 30 0 anafiadau cyllell, 5 i 10 0 bobl wedi eu saethu, a degau gydag anafiadau eraill, ac yn gorfod aros am oriau cyn cael sylw. Dyna ganlyniadau ymladd: ymladd rhwng criwiau ieuanc, ymladd rhwng gwr a gwraig, ymladd rhwng cariadon, neu ganlyniadau ymosodiadau'r tsotsi, y lladron milain lechant yn nhywyllwch Soweto, yn barod i ddwyn cyflog gan ddefnyddio eu cyllyll miniog, gan roi'r llafn yn aml trwy'r galon. Profiad erchyll yw gweld yr orymdaith waedlyd hon, er ei fod yn gyfle da i ddysgu pwytho, ac ambell weithred lawfeddygol arall. Yn yr ardan Fydwreigiaeth y treuliais i'r rhan fwyaf o'r amser. Genid yno, ar gyfartaledd, hanner cant o fabanod bob dydd, gyda rhyw wyth i ddeg trychiad Cesar. Lle gwyllt a phrysur oedd, gyda bydwragedd yn gofalu am y mwyafrif o'r merched, a galw'r meddyg os byddai unrhyw anhawster. Y llinyn mesur oedd y rheolau osododd Philpott, yn Rhodesia, ar gyfer cyflymder yr esgor. Patrwm gorllewinol oedd i'r adran, a thrinid problemau pwysedd gwaed, y cyn-fasglwyf, ac anawsterau geni yn yr un modd ag ym Mhrydain. Ond, 'roedd gwahaniaeth yn yr ystadegau. Y Cyfradd Marwolaethau yn y Cyfnod Geni (MCG), ym Mara' oedd 43-6/1,000. Yn yr ysbyty i'r croenwyn yn Johannesburg, tua 12/1,000 oedd yr MCG, cyfradd debycach i'r un yng Ngorllewin Ewrop. Rhyfedd y gwahaniaeth wna 12 milltir a melanin! Os oedd tebygrwydd yn y driniaeth roddid, gwahanol iawn oedd agwedd y merched at feichiogrwydd ac esgor, o'i gymharu ag agwedd merched y gorllewin. Yn Soweto, ychydig iawn o'r merched cyntaf-feichiog oedd yn briod. Byw gyda'u dynion wnaent, neu caniateid i'r cariad ddod i fyw at deulu'r ferch. Pan brofai hi ei gallu i feichiogi ac esgor, efallai y câi gynnig priodi. Ond, ffon ddwybig oedd y trefniant gallai'r ferch hefyd wrthod y dyn, a mynd i fyw at rhywun arall. Ond, yn ôl pob sôn, arweiniai'r trefniant rhyddfrydol hwn i broblemau teuluol a phersonol dybryd, gan mai arfer y pentrefi gwledig oedd, ac nid hawdd oedd ei impio ar gymdeithas Soweto, y dreflan aml-lwythog, enfawr, ar gyrion y byd modern. Hyrwyddir atal cenhedlu yng nghlinigau Soweto ac ysbyty Baragwanath, ond, mewn cymdeithas lle mae plant yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol, prin iawn yw'r defnydd ohono. Bellach, ac er hynny, y mae yno genhedlaeth o