Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ferched trefol, du, soffistigedig, sy'n gweithio yn Johannesburg ac yn nyrsio yn y Bara', ac wedi mabwysiadu trefn o gynllunio'u teuluoedd yn weddol ofalus. I'r bobl hyn, sydd rhwng dau fyd, y mae bywyd yn anodd a chymhleth. Ond, nid y merched yn unig gaiff fywyd caled yn Soweto. Tua phump y bore yw'r amser prysuraf yn y dreflan. Bydd pawb ar draws ei gilydd, yn heidio am y trenau, y bysiau, y loriau, unrhyw beth i gyrraedd y gwaith. Ceisia llawer iawn sicrhau cludiant ar yr ochr allan i'r cerbyd, arferiad fu'n farwol i aml un cyn cyrraedd pen ei daith. Yn y diwydiannau trwm y gweithia'r dynion, y rhan fwyaf yn y mwynfeydd aur, llawer yn edrych ar ôl gerddi, eraill yn gweithio ar y ffyrdd, yn glanhau'r lonydd, ac yn y gwasanaethau cyhoeddus. Y mae addysg Prifysgol ymhell y tu hwnt i bawb ond plant y cyfoethogion. Felly, o'r dosbarth cefnog yn unig y daw meddygon, cyfreithwyr, a gweinyddwyr y dref. Yn Johannesburg y mae canolfan waith, yng nghanol y ddinas. Bob dydd, wrth ddrws y ganolfan hon, gwelir carfan o ddynion, yn disgwyl am y papur rydd hawl iddynt weithio. Wedi llwyddo i gael hwnnw, rhaid disgwyl i gyflogwr gynnig gwaith iddynt, gwaith dros dro fel arfer. Yn gwibio trwy brysurdeb y strydoedd llydain, trefnus, cynnes, gwelir y bysiau arbennig; ar gorneli rhai o'r strydoedd, saif tai bach gwahanol. Ar y rhain, gellir darllen y geiriau, 'Blacks, Asians and Coloureds', neu'r term bach hwylus hwnnw, 'Nie Blanhes' Rhaid i'r dyn du ddefnyddio drws arbennig, gwahanol os myn fynd i siop i brynu melysion neu sigarennau, (sydd, gyda llaw, yn eithriadol rad, ac yn gysur amlwg i lawer o'r gweithwyr du). Er bod y gwaith wna'r dyn du yn debyg iawn i'r hwn wna'r dyn gwyn, nid yw ei gyflog ond un rhan o saith o gyflog y gweithiwr gwyn. Dyna rai o'r ffactorau wna Johannesburg yn ddinas mor arbennig. Hanner awr wedi pedwar y prynhawn! Bellach, rhaid i'r dyn du adael y ddinas, a throi ei wyneb at ei gartref yn y faestref ddu. Rhaid wynebu'r swper tlawd o mealie meal, y pap a wneir o flawd yr indrawn, y botel Coco-cola, y tuniau pysgod, a'r cawl llysiau. Yna, ar ôl swper, treulio'r min-nos yn yshebeen, tai cwrw a gwirod cartref anghyfreithlon Soweto. Ar y Sadwrn, codi a mynd i gefnogi'r Orlando Pirates neu'r Moroka Swallows, timau pêl-droed lleol. Uchelgais y bechgyn troednoeth yw chwarae i'r Pirates, a dianc o lwch yr iard gefn. Amhosibl yw crynhoi Soweto i baragraff; byddai'n anodd cywasgu'r cyfan i lyfr, mae'r lle'n rhy gymhleth ac yn newid yn rhy sydyn. Ond, y mae Soweto'n gasgliad o lwythau Bantw, gwahanol eu traddodiadau gwledig, yn byw ar gyrion y moesau a'r arferion gorllewinol/Americanaidd, gydag un droed yn y byd modern, ac yn profi o'i gyfoeth a'i densiynau, a'r droed arall yn y byd traddodiadol Affricanaidd nad ydynt berchen modfedd ohono. Soweto yw'r bobl.