Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Bellach, y mae pob plentyn yn gyfarwydd â llyfrau Ladybird yn Gymraeg. Erbyn hyn, ymddangosodd mwy ohonynt, rhai 'technegol' eu natur.* ELFEN, y Wasg Wyddonol Gymraeg, sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r llyfrau hyn, a rhaid canmol y diwyg. Cymharant yn ffafriol iawn â'r llyfrau Ladybird gwreiddiol, gyda darluniau clir ac ysgrifen ddarllenadwy. Dengys y llyfr 'Cymorth Cyntaf' nifer o ffeithiau am y corff, gan esbonio'r broses o anadlu, cylchrediad y gwaed, y nerfau a'r esgyrn, a disgrifio rhai o'r damweiniau neu niweidiau all ddigwydd i amharu ar weithgaredd y pedwar hyn yn eu tro. Disgrifir cymorth cyntaf syml, y gall plentyn rhyw ddeg i ddeuddeg oed ymgymryd ag ef. Er enghraifft, disgrifir sut i dynnu llychyn o'r llygad, gan hefyd rybuddio na ddylid rhwbio'r llygad. Anelwyd y ddwy gyfrol 'Gofal ar y Ffordd' a 'Diogelwch yn y Cartref' at blant iau, ond eto gwnant y gwaith a fwriadwyd iddynt yn ddiddorol a deniadol. Dylai'r ddwy gyfrol ganolbwyntio meddwl plentyn, a'i rieni, ar broblem diogelwch yn y cartref a'r tu allan. Yn sicr, ni ddylai cartref â phlant ieuanc ynddo fod heb y llyfrau hyn, yn enwedig gan fod eu pris mor rhesymol. CYMORTH CYNTAF, Ian Roy, (addasiad Cymraeg Heulwen Jones), Elfen Cyf., Blaenau Ffestiniog. 60c. DIOGELWCH YN Y CARTREF, Marjory Purves, (addasiad Cymraeg Heulwen Jones), Elfen Cyf., Blaenau Ffestiniog. 60c. GOFAL AR Y FFYRDD, R. Collingridge, (addasiad Cymraeg Heulwen Jones), Elfen Cyf., Blaenau Ffestiniog. 60c. Llawlyfr bychan a gyhoeddwyd gan Glinic y Troethlif Melys, yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, yw hwn.* Rhennir ef, yn rhad ac am ddim, i'r cleifion fynychant y Clinic hwnnw yn Ne Clwyd. (Ceir fersiwn Saesneg ohono hefyd.) Bwriad y llyfryn yw esbonio rhywfaint ar yr afiechyd, y troethlif melys, a'r driniaeth sydd ar ei gyfer. Y mae'n llawn o awgrymiadau diddorol a phwysig am y cyflwr, a'r rheolau y dylid eu cadw os am leihau problemau'r dyfodol. Yn anffodus, llithrodd un neu ddau o frychau i'r llyfr fel y'i cyhoeddwyd. Er enghraifft, ar dudalen 16, yn y frawddeg gyntaf, "yn rhesymol" sydd yn gywir, ac nid "yn resymol", ar dudalen 13, "i gwmni'r yswiriant gwyliau" ac nid "yswiriant wyliau"; "prydau" yw lluosog "pryd" (bwyd) hefyd, ac nid "prydiau". Ond manion yw'r rhain mewn llyfryn tra diddorol, a defnyddiol. Byw gydag Insulin