Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodyn Golygyddol Yn y rhifyn hwn o Cennad, gwelir un erthygl ar alar. Hon yw'r gyntaf o ddwy erthygl gan Dr Huw Edwards, a enillodd wobr y Gymdeithas Feddygol yn Eisteddfod Llambed. Llongyfarchiadau iddo. Oherwydd hyd yr erthyglau, penderfynwyd eu cyhoeddi un ar y tro. Y flwyddyn nesaf, Dr Edwards fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth. Felly, gwell i eraill ohonoch ddechrau meddwl am erthyglau addas i'w cyhoeddi! Yn y rhifyn hwn hefyd, caiff y swynwr, neu'r dyn hysbys, dipyn o sylw. Peidied neb â meddwl mai crefft i'r gorffennol yn unig yw crefft y dyn hysbys. Cofied pawb mai prif arf yr hen feddygon hyn oedd ffydd y claf ynddynt hwy a'u meddyginiaethau. Efallai nad oedd y feddygaeth yn dechnegol, ac efallai nad oedd mor effeithiol, yn yr ystyr wyddonol, â mwyafrif ein triniaethau ni heddiw. Ond, yr oedd yn dra effeithiol yn yr ystyr seicolegol, i'r anhwylderau seicosomatig, a thystiai llawer i rin rhyw drwyth, neu allu meddyg arbennig. Efallai y cofia rhai sy'n fyw heddiw am yr amser nad oedd llawer iawn o gyffuriau gwir effeithiol ar gael, a byddai pob ffisig yn gymysgedd o'r ychydig hyn, mewn gwahanol gyfartaleddau. Dibynnent, i raddau helaeth, ar ffydd y claf am eu heffaith. Trwy wneud meddygaeth mor wyddonol, trwy geisio gwneud techneg ohoni, tybed nad ydym yn anghofio'r claf? Rhaid cofio nad rhywbeth sy'n dilyn rheolau pendant, neu y gellir ei fesur yn dwt, yw'r claf nid yw pob un yn ymateb yn yr un ffordd. Efallai fod poen yn ddirdynnol i un, tra mai rhyw anesmwythyd yw i arall. Dylai pob meddyg gofio geiriau un o'r athrawon yn Ysgol Feddygol Lerpwl. "Y bodlonydd gorau i'r claf yw'r meddyg," hynny yw, y mae gweld y meddyg yn feddyginiaeth ynddo'i hun, yn arbennig felly os gwrendy'r meddyg ar y claf, a ,rhoi rhywfaint o sylw iddo. Yn ystod y misoedd, a'r blynyddoedd diwethaf, bu llawer o holi am y Rhestr Termau, ac yn anffodus, ateb digon niwlog ac amhendant a roddid. Ond, bellach, y mae newyddion gwell. Darfu Panel Termau Meddygol y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ar eu gwaith o fwrw golwg ar waith y Gymdeithas yn casglu, a bathu, termau; bu ymgynghori rhwng y Panel â chynrychiolwyr y Gymdeithas Feddygol, (Dr Tom Davies a'r Golygydd). Cafwyd cytundeb ar y termau a argymhellir. Un cam sydd ar ôl bellach, sef i'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd llawn fwrw golwg derfynol ar y rhestr cyn ei hanfon i'w hargraffu.