Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Profiadau Llawfeddyg Esgyrn yn Saudi Arabia Richard Rees, cyn Lawfeddyg-esgyrn i Awdurdod lechyd Dyfed Rhagymadrodd Oherwydd fy mhrofiadau yn y fyddin ym Mhalestina, a'm gwasanaeth gyda'r Weinyddiaeth Ddatblygu Dramor, yn Kano gogledd Nigeria, ac eto ym Mangladesh ym 1976, penderfynais yr hoffwn ymddeol o'r Gwasanaeth Iechyd yn gynnar a dychwelyd i rai o'r gwledydd hyn i weithio. A dyna a wneuthum ym 1978. Yn y flwyddyn honno, fe'm hapwyntiwyd i'r Adran Llawfeddygaeth Esgyrn yng Ngholeg Meddygol Riyadh, yn Saudi Arabia. Sefydlwyd y coleg hwn dan nawdd Prifysgol Llundain. Parhaodd y berthynas hapus a ffrwythlon hon am oddeutu deg neu ddeuddeg mlynedd, yn arbennig dan nawdd Ysgol Feddygol y 'Royal Free', a'r Deon, Dame Francis Gardner. Ffynnai'r Coleg Meddygol ar waethaf y ffaith fod y syniad o addysg bellach, yn enwedig i ferched, yn rhywbeth newydd iawn i lwythau Arabia; yn syniad anhygoel bron i'r Wahabïaid, sect Islam biwritanaidd iawn, a gredai mai lle'r ferch oedd yn y cartref, yn israddol i'r dyn. Bellach, diflannodd y cysylltiad rhwng Llundain a Riyadh: erbyn hyn, Prifysgol Colorado, yn yr Unol Daleithiau, sy'n gofalu am y Coleg Meddygol yn Riyadh. Bellach, y mae tri choleg meddygol arall, yn Jeddah, Dachran ac Abha yn y de. Blwyddyn dreuliais yn Riyadh, cyn symud ymlaen i orynys Arabia, i Gharjan, yn Emirates yn y Dwyrain, Jeddah a Yanbu ar y Môr Coch, Al Baha ym mynyddoedd y de, a chyfnod pellach yn Riyadh ei hun. Cymdeithas y Dwyrain Canol Concrwyd gorllewin Saudi Arabia gan sect y Wahabiaid yn y ganrif hon. Sect y dwyrain mewn gwirionedd, a'r pennaeth yw Saud ei hun. Sect uniongred, biwritanaidd yw hon, yn credu'n ddi-wyro yn y gyfraith a'r Koran. Iddynt hwy, nid gweledigaeth o Dduw'n unig yw'r Koran, ond hefyd reolau pendant at fyw. Y mae'r berthynas rhwng dyn a'i Dduw, Allah, yn rhywbeth personol iawn, a rhaid meithrin y berthynas hon yn ofalus trwy weddîo'n gyson, bum gwaith bob dydd, gan gychwyn am bedwar o'r gloch y bore. Y ddwy ddinas sancteiddiafyw Mecca a Medina, y ddwy yng ngorllewin y wlad. Gwlad o ddau 'ddosbarth' cymdeithasol yw Saudi Arabia, er nad yw hyn yn hollol wir. Nid oes ddosbarth canol yno, dim ond y tlodion a'r cyfoethogion, a'r cyfoethogion mewn gwirionedd yr un math o bobl â'r tlodion, ond fod ganddynt gyfoeth materol. Dywedir fod oddeutu 4000 o dywysogion yn y wlad, y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r llwythi Bedwin crwydrol, ac yn ymfalchïo yn hyn. Nid oes crefftwyr, gweithwyr technegol nac athrawon brodorol. Eifftwyr oedd mwyafrif y gweinyddwyr a'r athrawon, a Phacistanwyr oedd mwyafrif aelodau'r lluoedd arfog. Pobl orllewinol, Ewropeaid neu Americanwyr, oedd y