Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dwl yw'r dyn a red at swynwr Yn ei flinder i gael swcwr" Dr. Edward Davies Meddyg Teulu, Cerrigydrudion Cwpled o 'Seren Foreu' y Ficer Prichard yw'r uchod. Gwr oedd ef, yn ôl ei gofiant, gafodd dröedigaeth wedi edrych ar fwch gafr! 'Roedd y Rhys Prichard ifanc yn feddwyn, ac arferai bwch gafr ei ddilyn o dafarn i dafarn yn Llanymddyfri. Rhoddai yntau lymaid o gwrw i'r afr ymhob tafarn. Un tro, wedi cerdded y tafarnau'n ormodol, meddwodd yr afr, ac wrth edrych arno, cafodd Rhys Prichard dröedigaeth! Yn y cyfnod hwn, yr oedd Salmau Dafydd eisoes wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg, ar gynghanedd, gan Wiliam Miltwn, ac yr oedd Salmau Cân Edmwnd Prys, y rhai a genir heddiw, ar gael. Ond iaith lenyddol, goeth oedd i'r rhain, ar y cyfan. Dywed Syr Ifor Williams mai camp fawr y Ficer Prichard oedd sylweddoli fod Cymraeg syml y rhigymau a'r baledi yn fwy dealladwy a chofiadwy i'r werin anllythrennog na gwaith Miltwn ac Edmwnd Prys. Felly, rhwng 1615 a 1650, canodd y Ficer ar bynciau amrywiol iawn, gan gynnwys cyngor i wr ifanc ar sut i ddewis gwraig: "Cais wraig ddistaw, dda ei nwydau, Ddof ei natur, bach ei chwedlau, Gwaeth na defni, gwaeth nac arthes, Gwaeth na gwiber yw sgoldïes." Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd ymron gant a hanner o benillion yn ymwneud â Phla'r Chwarren Fawr yn Llundain, gan ei bygwth fel digllonrwydd Duw ar y Cymry. Ceir pedair pennill i annog "y dylai gwraig fagu ei phlentyn â'i llaeth ei hunan," testun addas iawn i ficer! Ymhlith yr holl rigymau ceir ambell drawiad pleserus, fel yr un i atgoffa dyn am angau: "Fel y rhed yr haul i'r hwyr, Fel y treulia'r gannwyll gwyr, Fel y syrthia'r rhosyn gwyn, Fel y diffydd tarth ar lyn. Felly treulia, felly rhed, Felly derfydd pobol cred, Felly diffydd bywyd dyn, Felly syrthiwn bob yr un." Wedi edmygu gwaith yr Hen Ficer, a'i ddylanwad ar Gymru, rhaid anghytuno'n llwyr â gosodiad cwpled y testun, mai "dwl yw'r dyn a red at swynwr". Y mae lle i gredu na dderbyniodd swyn na swynwyr eu dyledus sylw yn hanes meddygaeth. Cofier mai yn y dyddiau cynnar ychydig o feddygon oedd ym Mhrydain. Wedi sefydlu'r Coleg Brenhinol i Ffisgwyr, yn Llundain ym 1518, dwsin o aelodau fu am rai blynyddoedd, ac erbyn 1589, nid oedd yr