Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seiciatrydd Ymgynghorol, Awdurdod Iechyd Dyfed Galar Nodweddiadol Galar yw'r ymateb normal i golli gwrthrych cariad, megis cyfaill neu berthynas agos, neu weithiau ryw hoff anifail neu gyfoeth materol. Fel arfer nid yw'n dod i sylw seiciatryddion ond pan fo'n afreolaidd mewn rhyw ffordd. Gan hynny, ni ddiffiniwyd yr adwaith normal i golled trwy farwolaeth tan yn gymharol ddiweddar. Cyfwelodd Marris, (1958), 72 o wragedd (25-56 mlwydd oed) a oedd yn byw yn East End Llundain ac a gollodd eu gwyr tua dwy flynedd ynghynt. Astudiodd Gorer, (1965), 359 o ddynion a gwragedd Prydeinig a gollodd berthynas agos yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Cafodd Clayton, (1968), hyd i berthnasau nifer o gleifion a oedd wedi marw yn yr ysbyty, cafodd gyfweliad â hwy o fewn ychydig ddiwrnodau i'r golled ac eto ymhen 2-4 mis. Disgrifiodd Parkes, (1970), astudiaeth o 22 o wragedd gweddwon a welwyd ganddo sawl gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt golli'u gwyr. O'r astudiaethau hyn, ceir disgrifiad o'r adwaith arferol i golli perthynas agos. Yn reit aml, ar ôl y golled, nid yw'r unigolion yn medru sylweddoli'n llawn fod marwolaeth wedi digwydd. Pan yw'r anallu hwn yn digwydd, mae'n parhau fel arfer am nifer o oriau neu am rai diwrnodau, ond weithiau am gyhyd â phythefnos. Nid yw'r person a gafodd y golled yn teimlo unrhyw drallod yn ystod y cyfnod hwn, ac, yn wir, gall ei ymddygiad fod o gymorth trwy roi nerth i weddill y teulu. Rhoddir enghraifft dda o hyn gan Marris, (1958), sy'n adrodd hanes ymddygiad gwraig ieuanc ar ôl iddi glywed am farwolaeth ei gwr. "Deuthum adref ac, efallai na fyddwch yn fy nghredu, ond eisteddais a darllenais y papurau dydd Sul o glawr i glawr nes i rywun ddod â chinio i mi. 'Rown i'n methu sylweddoli dim am fisoedd. Byddwn yn berwi dwr ac yn gwneud te iddo, neu pan fyddwn i'n dod adref a gweld nad oedd yno, byddwn yn meddwl ei fod wedi picio allan Pan sylweddolir cymaint a gollwyd, daw'r adwaith llawn i'r amlwg. Nodweddir hyn gan gyfnewidiadau corfforol a meddyliol. Nid oes cytundeb ynglyn â pha mor hir y pery'r cyflwr hwn. Dywedodd Lindemann, (1944), fod mwyafrif y bobl a welwyd ganddo yn drallodus am 4-6 wythnos yn unig; nododd Clayton ac eraill, (1968), fod y mwyafrif yn gwella ar ôl 6-10 wythnos; cred Gorer, (1965), fod galar yn parhau'n ddifrifol am 6-12 wythnos, tra dywed Parkes, (1965), fod dwyster y sumtomau'n lleihau ar ôl tua chwech wythnos ac nad oes llawer yn eu blino ymhen chwe mis. Serch hynny, pery rhai pobl i alaru am gyfnodau hir iawn. Dim ond 14 o'r 72 o weddwon a astudiwyd gan Marris a oedd yn ystyried eu hunain yn iawn pan welodd ef hwynt tua dwy flynedd ar ôl iddynt golli'u gwyr. Dywedodd 10% o'r bobl a welwyd gan Gorer fod eu galar yn ddiderfyn ac na chredent y byddent yn gwella byth. I grynhoi, gallwn ddweud fod y mwyafrif yn teimlo'n well 0 lawer ar ôl chwe mis, ond fod sumtomau penodol yn poeni eraill ar ôl blwyddyn neu fwy. Wylaf dro, tawaf wedyn Dr Huw Edwards,