Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODYN GOLYGYDDOL "Y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ddiogel yn ein dwylo." Dyna ymffrost y Llywodraeth Geidwadol ychydig yn ôl, ond bellach ymddengys y geiriau yn rhai gwag iawn, yn bennaf oherwydd y Papur Gwyn, "Gweithio i'r Cleifion", a'r Cytundeb Newydd i Feddygon Teulu. Ers 1974, gwelodd y Gyfundrefn Iechyd yng Nghymru, fel yng ngweddill gwledydd Prydain, nifer o ad-drefniadau. Yn wir ni fu cyfle i adolygu effeithiau un ad-drefniant cyn gorfod wynebu un arall. Hercio o'r naill newid i'r llall fu'r hanes. Ac yn awr, dyma'r ad-drefniad mwyaf pell-gyrhaeddol o'r cwbl, os gweithredir ef. Bu digon o drafod a dadlau am y Papur Gwyn ar y cyfryngau, Ue bu aelodau'r Gymdeithas hon yn flaenllaw iawn, yn y papurau dyddiol ac yn y papurau meddygol, fel nad oes angen ail-adrodd y dadleuon yma. Fodd bynnag, cred ddi-ysgog CENNAD yw mai cam mawr yn ôl fydd canlyniad y Papur Gwyn a'r Cytundeb Newydd. Cam yn ôl i'r blynyddoedd cyn 1948; cam yn ôl i'r amser pan oedd claf a meddyg yn gorfod gwylio'r geiniog, ac nad oedd yr hawl i iechyd a meddyginiaeth rad yn eiddo pob deiliad o'r ynysoedd hyn. Ym mis Hydref eleni, yng Nghynhadledd Caer, bydd, y mae'n fwy na thebyg, drafodaeth ar y priodoldeb o gyhoeddi crynodeb o bob erthygl yn CENNAD yn Saesneg ar ddiwedd yr erthygl. Gobaith cynigwyr y farn hon yw y byddai'n ehangu ystod darllenwyr CENNAD i gynnwys y di-Gymraeg, hynny yw, y rhai sy'n darllen Saesneg yn unig. Eu hofn yw fod CENNAD yn rhy blwyfol ei apêl, ac y dylid gwneud rhywbeth i osgoi hyn, hynny yw, agor y drws i'r Saesneg. Yn fy marn i, nid yw hyn yn wir. Ceisiais wneud CENNAD yn ddigon eang ei apêl, trwy'r erthyglau gyhoeddwyd a thrwy'r erthyglau golygyddol, i osgoi'r cyhuddiad o blwyfoldeb. Os na lwyddais, yna y mae'n rhaid i chwi ddarllenwyr ysgwyddo peth o'r bai, am beidio cyfrannu erthyglau fyddai, yn eich barn chwi, yn ehangu'r apêl. Ail reswm nad oes angen y crynodeb anghyfiaith yw nad yw'r erthyglau yn CENNAD, ar y cyfan, yn disgrifio gwaith ymchwil gwreiddiol nas disgrifiwyd, neu nas disgrifir, mewn man arall. Felly, dadl ffug yw honno. Ond, yn bwysicach fyth, byddai caniatau'r fath beth, fel polisi, yn groes i gyfansoddiad y Gymdeithas, sy'n datgan yn glir ac yn groyw mai'r Gymraeg fydd unig iaith y Gymdeithas. (Os llithrodd ambell frawddeg neu air Saesneg i erthyglau yn y gorffennol, 'rwyf yn barod i dderbyn y bai. Dylai unrhyw ddarpar gyfrannwr sylwi ar y "Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr" am arweiniad pellach.)