Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CLEFYD MELYS: DARGANFYDDIAD INSWLIN A'R CYSYLLTIAD CYMREIG Dr Alan Rees, B.Sc., M.D., M.R.C.P., Uwch-ddarlithydd mewn Meddygaeth, Coleg Meddygol Prifysgol Cymru a Ffisigwr Ymgynghorol. Mae hanes y clefyd melys (Diabetes Mellitus) a'r ymchwiliad i mewn i'w natur, pathoffisioleg a'i driniaeth yn un ddiddorol. Yn ychwanegol hefyd mae cysylltiad Cymreig i'r stori, ac 'rwyf am ganolbwyntio ar hyn yn yr erthygl hon. Daethpwyd o hyd i'r disgrifiad cyntaf o'r clefyd melys yn y Dwyrain Canol. Ysgrifennwyd 'Papyrus Ebers' tua 1550 mlynedd cyn Crist, ond bu'n rhaid aros hyd 1862 cyn ei ddarganfod mewn bedd yn Thebes, Luxor. Fe'i cyfieithwyd i'r Almaeneg a'r Saesneg gan Georg Ebers, (1837-1898), arbenigwr enwog ar yr Aifft a chanddo ef y ceir y disgrifiad cyntaf o 'orgynhyrchiad troeth'. Ef hefyd a awgrymodd y dylid trin y claf gydag echdyniad o lysiau arbennig. Nid oes sôn fod Hippocrates, (460-377 C.C.), wedi disgrifio'r clefyd melys, a bu'n rhaid aros hyd ymddangosiad Aretaios o Gapodocia, (130-200 O.C.), i gael y disgrifiad nesaf ac am yr enw Diabetes. Mae Aretaios yn enwog am ei ddisgrifiad cryno 'Mae diabetes yn glefyd cymhleth iawn ac mae'r cnawd a'r cyhyrau yn ymdoddi i droeth mae'r claf yn piso troeth yn ddilywodraeth mae bywyd yn boenus ac yn fyr mae'r cleifion yn cyfogi, yn anesmwyth ac yn sychedig ac ymhen ychydig amser byddant farw.' Yn y chweched ganrif ar ôl Crist, ceir sôn yn llenyddiaeth Vedic yr India am 'madhumea', sy'n golygu 'troeth fel mêl' yng nghyswllt diabetes, ond Thomas Willis, (1621-1675), sy'n cael y clod am sylwi fod blas melys ar droeth y diabetig. Bu'n rhaid aros dau gan mlynedd ychwanegol cyn gweld cynnydd sylweddol yn y wybodaeth am y clefyd siwgr. Yng nghanol y ganrif ddiwethaf daeth cewri'r byd ffisiolegol i'r brig dynion fel Claude Bernard, (1813-1878), a ddangosodd fod anifeiliaid yn gallu cynhyrchu glwcos yn yr afu gosodiad a oedd yn gwrth- ddweud y gred gyfoes mai o lysiau yn unig y ceid glwcos. Barn Bernard oedd mai diffyg yn yr afu oedd prif achos y clefyd melys. Tua'r un amser disgrifiodd Paul Langerhans, (1847-1888), gelloedd arbennig Ynysoedd Langerhans' a oedd wedi crynhoi mewn ynysoedd yn y cefnedyn, ond heb fod yn gysylltiedig â dwythell y cefndedyn. Fel canlyniad i hyn canolbwyntiwyd llawer o egni ar ymchwil i ganlyniadau godi'r cefndedyn mewn anifeiliaid cŵn yn enwedig. Darganfu Oscar Minkowski a Joseph von Mering bod y cwn yn datblygu'r clefyd melys ar ôl iddynt golli eu cefndedyn, ac felly paratowyd y ffordd i'r gwaith ymchwil cyffrous gan Banting, Best, Collip a McLeod yn Toronto, Canada ym 1922. Llwyddodd y pedwar gwr hyn i gynhyrchu inswlin o echdyniad cefndedyn