Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOFAL BUGEILIOL YN YR EGLWYS Alwyn Rice Jones, Archesgob Llanelwy Credaf fod hen gysylltiad rhwng yr Eglwys a'r byd meddygol. Rwy'n hoffi meddwl ein bod ni'n parhau i ddelio a thrin maes gweddol gyffredin. Yn sicr iawn, y mae Ue i ddyfnhau y gyfathrach cydrhwng y maes meddygol a'r Eglwys a hyn trwy gyfrwng deialog rheolaidd. Mi gredaf hefyd fod angen llawer mwy o gydweithio grymus rhyngom ni yn yr Eglwys a'r weinyddiaeth iechyd yn arbennig yn y gymuned leol. Rhaid inni fod yn barotach i weithio mewn partneriaeth o fewn y gymdeithas sydd ohoni fel offeiriad, gweinidogion, meddygon, athrawon, heddlu, arweinwyr ieuenctid, swyddogion prawf a gweithwyr cymdeithasol. Yn rhy aml buom yn fwy parod i ddilyn ein trywydd ein hunain ac, yn wir, wrthod cydnabod y cyfraniad y gall yr asiantau cymdeithasol eraill eu cyfrannu er lles yr unigolyn a'r gymdeithas gyfan. Un enghraifft o hyn yng Nghlwyd yw ffurfiant a ffyniant Cyngor Clwyd ar Gamddefnyddio Cyffuriau sy'n cynnwys nifer o asiantau sy'n fodlon cydweithio mewn partneriaeth. Y mae'r termau Gofal Bugeiliol a Diwinyddiaeth Fugeiliol yn deillio o'r syniad neu'r egwyddor o fugeilio. Y mae hon yn ddelwedd gyffredin yn yr Ysgrythur. Yn yr Hen Destament ceir cyfeiriadau yn llyfr y Salmau, (Salm 23), a Llyfr y Proffwyd Eseciel, (pennod 34), lle y sonir am Dduw fel bugail yn gofalu am ei braidd, sef cenedl Israel. Yn yr amser hwnnw yr oedd bugeilio yn orchwyl caled, enbydus a pheryglus iawn ac yn gofyn am gryn dipyn o ynni corfforol a mentr. Y mae Salm 23 yn enghraifft o hyn. Gellir yn hawdd iawn gymharu gorchwyl bugail yn y Dwyrain Canol gyda gwaith yr hen borthmyn yng Nghymru ers talwm. O droi i'r Testament Newydd, yn Efengyl Ioan gwelwn fod Iesu yn sôn amdano ei hun fel y Bugail Da sy'n fodlon rhoi ei einioes dros y defaid. Hynny yw, y mae'n weddol amlwg fod Iesu yn gweld ac yn deall ei fywyd a'i weinidogaeth yn nhermau bugeilio neu ofalu. Dylem sylwi hefyd mai gorchwyl wledig oedd hon ac nid un oedd yn gysylltiedig a'r bywyd dinesig neu drefol. Ond yn fuan iawn yn hanes yr Eglwys daeth i ran Paul yr apostol, trwy gyfrwng ei lythyrau mynych at y Cristnogion hynny yn Eglwysi dinasoedd a threfi môr y canoldir Corinth, Rhufain, Thesalonia, ac yn y blaen i ddangos gofal bugeiliol a chyfarwyddyd. Y mae'n ymdrin yn gelfydd ond eto'n gadam â rhai problemau astrus oedd yn wynebu'r Cristnogion hyn oedd yn gorfod sefyll dros eu ffydd newydd mewn cymdeithas aml gredoau, (pluralistic). Yn naturiol felly, daethpwyd i ddisgwyl yr un gofal gan arweinwyr eglwysig gan mai hwy oedd bugeiliaid y praidd. A dyma deitl sydd wedi glynu wrth weinidogion ac offeiriaid hyd y dydd heddiw. Ar hyd y canrifoedd disgwylid i offeiriad fod yn hyddysg yn y ddawn o drin y