Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASBESTOS Dewi Davies, M.D., F.R.C.P. Cyn Ffisigwr Ymgynghorol, Ysbyty'r Ddinas, Nottingham Perthyn asbestos i ddosbarth o fwynau edafog ag iddo briodweddau arbennig. Gellir ei nyddu a'i blethu, gall wrthsefyll gwres a chrydiad, mae iddo nerth gwrthdynfa a dargludiad isel i drydan. Gwyddir am asbestos ers canrifoedd a defnyddid ychydig ohono. Dywedid fod pabwyr lampau'r lleianod gwyryfol yn Rhufain wedi eu gwneud o asbestos. Tua dechrau'r ganrif daeth i gael ei ddefnyddio yn fasnachol, gan gynyddu yn fawr, (Ffigwr 1). Cyrhaeddwyd uchafbwynt cynhyrchiad tua 1973 a gwelir dirywiad yn ddiweddar oherwydd troi at ddefnyddiau eraill. Yn yr Unol Daleithiau yn 1981 defnyddiwyd 350,000 tunnell ond erbyn 1985 'roedd hyn wedi cwympo i'r hanner. Rhwystrwyd mewnforiad un math, sef asbestos glas, i Brydain ym 1970. Ffigwr 1. Defnyddio Asbestos, Y Deyrnas Unedig, tunelli Holl asbestos Crocidolite 1920 21,000 1930 28,000 1940 93,000 2,500 1950 116,000 5,500 1955 140,000 6,800 1965 152,000 3,400 1975 140,000 0 Ceir cyswllt â llwch asbestos wrth ei fwyngloddio a'i drin, yn enwedig yng Nghanada, Awstralia, De Affrica a Rwsia. Mae cyswllt wedyn yn ystod y daith o'r mwyngloddiau i'r mannau lle defnyddir ef. Canolir y diwydiant gweithio'r asbestos ym Mhrydain mewn ffatrïoedd yn Nwyrain Llundain, Sir Gaerhirfryn a Sir Efrog. Mae asbestos yn cael ei wnio i frethyn sy'n gwrthsefyll tân, â llinynnau. Fe'i defnyddir yn helaeth i ynysu bwyleri a pheipiau mewn ffatrioedd, ysbytai, llongau a phwerdai. Fe'i cyfunir i estyllod sy'n gwrthsefyll tân ac arferid ei chwistrellu ar waliau adeiladau i wrthsefyll tân. Fe'i cymysgir gyda sment i wneud pibau, gwteri, llenni a theils i'w rhoi ar y to. Fe'i defnyddir mewn brêcs a blychau batris. Gall gweithiwr ddod i gysylltiad ag asbestos nid yn unig wrth ei baratoi a'i ddefnyddio ond hefyd yn ystod ei waredu, yn enwedig pan symudir ef oddiar hen fwyleri a pheipiau. Mae asbestos wedi ei ddefnyddio mor ami fel y gwelir llwch asbestos yn ysgyfaint llawer o bobl nad ydynt wedi gweithio gyda asbestos erioed, yn enwedig mewn trigolion trefi diwydiannol.