Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OES ANGEN ANHWYLUSO'R PATHOLEGYDD GYDA'R COLUDDYN CROG? Mr Mel Jones, M.B., Ch.B., L.R.C.P., F.R.C.S., F.R.C.S.Ed., Cofrestrydd Orthopedig, Prifysgol Lerpwl ac Ysbyty Frenhinol Caer Cyflwyniad Llid y coluddyn crog yw'r afiechyd mwyaf cyffredin yn y Gorllewin sydd angen triniaeth llawfeddygol brys, gan effeithio 1.5 ym mhob mil o ddynion a 1.9 o bob mil o ferched, y rhan fwyaf o dan ddeugain oed1. Mae'n arferol i yrru'r coluddyn crog am archwiliad gan y patholegydd, ond mae rhai yn dadlau nad oes angen gwneud hyn2 gan arbed tua £ miliwn y flwyddyn3. Cododd y syniad hwn nyth cacwn yng ngholofn lythyrau y Lancet Craidd y ddadl hon yw cywirdeb diagnosis y llawfeddyg wrth edrych ar y coluddyn crog yn ystod y llawdriniaeth. I ateb y cwestiwn hwn gwnaethpwyd yr astudiaeth ganlynol. Cleifion a'r dull Tra yn Gofrestrydd Cylchdroi mewn llawfeddygaeth gyffredinol yn Abertawe, edrychais yn ôl ar pob claf oedd wedi ei dderbyn i ysbytai Singleton a Threforys gyda'r diagnosis o lid y coluddyn crog yn 19864. Y cyfanswm oedd 213 o gleifion, 124 yn ddynion a 89 yn ferched, rhwng 4-83 mlwydd, (cymedrig 19.0). Gwnaethpwyd y lawdriniaeth gan 7 o Gofrestryddion Cylchdroi, (nifer 126), 1 Cofrestrydd Canol, (nifer 6), 1 Cofrestrydd Uwch, (nifer 6), a nifer o lawfeddygon dros dro, (nifer 75). Edrychwyd ar ddisgrifiadau'r llawfeddyg o'r coluddyn crog yn ystod y lawdriniaeth a'u rhannu'n bedwar dosbarth: DosbarthO. Holliach Dosbarth 1. Llid mwyn, cynnar neu gymhedrol Dosbarth 2. Llidus Dosbarth 3. Madreddog, tyllog, crawniad neu lwmp. Yna, cymharwyd argraffiadau'r llawfeddygon gydag adroddiad y patholegydd. Canlyniadau Credir fod 173, (81.2%), o'r colyddion crog yn llidus yn nhyb y llawfeddygon ond dim ond 148, (69.5%), oedd yn llidus o dan feicroscop y patholegydd. Gosodir y gymhariaeth rhwng tyb y llawfeddygon ac un y patholegwr yn y tabl isod: Dosbarth yn nhyb y llawfeddyg 0 1 2 3 Llidus yn nhyb y patholegydd 0(0%) 4(20%) 93(91.2%) 51(100%) Holliach yn nhyb y patholegydd 40 (100%) 16 (80%) 9 (8.8%) 0(0%)