Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMGOM SGWRS Â LINFORD REES Siaradodd Huw Freeman, (H.F.), â'r Athro LinfordRees, (LJi.), ar y 22ain o Fawrth, 1988, yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatregyddion. H.F. Carwn ofyn beth a'ch symbylodd i fynd yn Feddyg? LR. Athrawon oedd y rhan fwyaf o'm teulu. Athro oedd fy nhad, fy nhaid yn brifathro, a'm hewythrod yn athrawon, prifathrawon a Chyfarwyddwyr Addysg. Yn yr ysgol ramadeg a fynychais, mynd yn athro oedd uchelgais y mwyafrif o'm cyfeillion. Sylweddolais innau fod cystadleuaeth frwd am fod am safleoedd ym myd addysg, felly edrychais am alwedigaethau eraill. Anfonais i Gaerdydd am brospectws Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru ac fe wnaeth argraff ddofn arnaf. Felly'n wir, fy mhenderfyniad i beidio bod yn athro a'm harweiniodd i'r byd meddygol. Ond, serch hynny, cefais fy hun yn athro yn y diwedd! H.F. A'i Cymraeg yw eich mamiaith? LR. Fe'm ganed ym Murry Port a'r Gymraeg oedd iaith yr aelwyd. Yn wir, Cymro uniaith oeddwn hyd nes i'r teulu symud i Lanelli pan oeddwn yn bedair oed. Mae gennyf gof byw o siarad â hogiau'r cylch, a sylweddoli nad oeddynt yn deall yr un gair. Yn anffodus, collais beth o'm Cymraeg, ond, yn ddiweddar, yr wyf yn ei adennill. Yr wyf yn aelod o gymdeithas giniawa lle siaradwn Gymraeg âtn gilydd ac yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain, yn gwisgo'r wisg wen, a mynychaf yr Eisteddfod pob tro y gallaf. H.F. Gyda'ch cefndir Cymreig traddodiadol, a gafodd crefydd a cherddoriaeth ddylanwad arnoch? LR. Do, chwaraeodd y Capel ran bwysig iawn yn fy hanes i, gan ei fod yn ganolfan y gymdeithas. Canai y corau meibion a'r corau cymysg yno, a bu hyn oll, ynghyd â chanu emynau, yn rhan bwysig o'm dyddiau cynnar. Hyd heddiw yr wyf yn gadarn yn y ffydd a mynychaf y capeli Cymraeg yn Llundain o dro i dro er nad wyf ar y funud yn gyson iawn gyda'm presenoldeb. HI. Pa ddylanwad gafodd y dirwasgiad economaidd ar eich magwraeth? LR. Cofiaf effaith ddifrifol diweithdra ar fy mherthnasau a'm cyfeillion. Cerddent o gwmpas yn eu cwman, yn llipa a digalon, heb flas ar fywyd. Sylweddolais yr adeg honno, fod diweithdra yn cael effaith arswydus ar hyder pobl. Ysgrifennais ar agweddau seiciatregol diweithdra yn ddiweddar ac wrth wneud daeth atgofion bore oes yn fyw i'm cof. Yn ffodus, ni bu effaith y dirwasgiad mor drwm ar ein teulu ni oherwydd mai athrawon oeddynt H.F. A oedd yna brofiadau bore oes eraill a gafodd ddylanwad arnoch? LR. Ardal wledig gyda glan môr hyfryd, coed pinwydd a harbwr oedd Burry Port, lle'm magwyd. Yno dechreuodd fy nghariad at y môr a nofio. Perchennog tynfad oedd fy nhaid ac arferwn fynd gydag ef i hebrwng y llongau mawr i'r harbwr. Yna,