Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYDDONYDD Yn ôl yr addewid yn y rhifyn diwethaf o CENNAD, dyma adolygiad o'r cylchgrawn gwyddonol, Y Gwyddonydd. Yn wahanol i CENNAD, nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng Y Gwyddonydd ac unrhyw gymdeithas, ac o ganlyniad y mae natur y cylchgrawn yn wahanol. Dibynna CENNAD, i raddau helaeth, ar erthyglau seiliedig ar ddarlithoedd o'r Cynadleddau, ond erthyglau 'newydd' sydd yn Y Gwyddonydd. Fel y mae'n digwydd, 'roedd y rhifyn diwethaf o Y Gwyddonydd yn rhifyn arbennig, yn dathlu pum mlynedd ar hugain o'r cylchgrawn, ac yn canolbwyntio ar un mater. yr amgylchedd. Cynnwys y rhifyn bymtheg o erthyglau yn ymwneud â phob agwedd o'r amgylchedd, yn ogystal â chyfraniadau eraill rheolaidd i'r cylchgrawn. Ymdrin yr erthyglau ag agweddau biolegol, ffisegol, a biocemegol o'r amgylchedd, yn ogystal â'i ddylanwad ar anifeiliaid, agweddau o ofalu am yr amgylchedd, ac wrth gwrs, llygredd: mwynheais yn fawr iawn erthygl Ioan ap Dewi a John B. Owen ar "Effaith ymbelydredd ar ffermio Gogledd Cymru", h.y., effeithiau damwain Chernobyl. Byddai'n amhosibl gwneud cyfiawnder â'r cylchgrawn cyfan, ond dyma grynodeb o rai o'r erthyglau roddodd y mwynhad mwyaf i mi. Yn yr erthygl gyntaf rhoddir amlinelliad o ymdrechion y Swyddfa Gymreig i ymchwilio llygriad yr amgylchedd, gan gynnwys astudiaethau i fathau arbennig o lygredd, e.e., effaith lefelau uchel o fetalau trwm, a dulliau o adfer neu adfeddiannu mannau llygredig. Dilyniant yw'r ail erthygl, sy'n disgrifio un o'r prosiectau hyn i adfer mannau wedi eu llygru â gwastraff llechi. Y mae hon yn erthygl ddiddorol dros ben, yn arbennig felly i'r rhai ohonom sydd yn dod o ardaloedd wedi profi dirywiad y diwydiant llechi a'r graith adawyd ar ei ôl. Amlinella'r erthygl y tair ffordd potensial o ddefnyddio'r gwastraff, sef: 1. cynhyrchu ffibrau, tebyg i ffibrau gwydr; 2. cynhyrchu cerameg gwydr; 3. dulliau o dynnu alwminiwm a mwynau eraill o'r llechi. Y mae ambell un o'r erthyglau yn addasiadau a chyfieithiadau o gylchgronau eraill. Un o'r rhain yw'r erthygl yn disgrifio pa mor euog yw Prydain o lygru'r amgylchedd, yn bennaf oll oherwydd yr holl swlffwr gaiff ei bwmpio i'r awyr, ac sydd yna'n disgyn íel glaw asid dros weddill Ewrop, yn enwedig yng ngwledydd Llychlyn. Eisoes mae'r pysgod mewn 18,000 0 lynnoedd Sweden wedi eu difa! Yn anffodus, caiff Prydain ei thâl am hyn, caiff "ei phigo gan ei hallforion asidig", e.e., eira du yn disgyn ar yr Alban, ac ystyfnigrwydd parhaol y Llywodraeth yn gwrthod gostwng lefelau'r llygredd o 30%, sef nod nifer o wledydd eraill Ewrop. Y mae erthygl Meurig Parri, Swyddog Cyhoeddusrwydd y Ganolfan Dechnoleg