Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llythyrau Wrecsam, Clwyd. Annwyl Gyfaill, Diolch am gyhoeddi fy mhwt ar "Y Ffordd yn 01" yn y rhifyn diwethaf o CENNAD. Fodd bynnag, yn anffodus, gadawyd y rhan bwysicaf, yn fy marn i, allan o'r erthygl fel y cyhoeddwyd hi. Yn fy mhrofiad personol fy hun, y mae tri pheth holl-bwysig i glaf os yw am lwyddo yn y frwydr i adfer ei iechyd a'i hunan-hyder ar ôl dioddef trawiad ymenyddol. Gall y frwydr fod yn un hir ac yn llawn llesteiriau sydd yn debygol o dorri calon y claf, os na fydd ei ysbryd yn ddigon cryf. Y tri pheth hyn yw derbyn yr afiechyd a'r cyfyngiadau rydd hwnnw ar gyraeddiadau; addasu nod gan gofio am y cyfyngiadau; ac yna gyflawni'r nod wedi ei addasu. Gellir crynhoi hyn yn y tri gair: Derbyn, Addasu, Cyflawni, neu "Accept, Adapt, Achieve" Yr eiddoch yn gywir, Howell Jones 134 Victoria Avenue, Porthcawl CF36 3HA Annwyl Gyfaill, Diolch am gynnwys yr erthygl "Ysbyty Dydd Geriatreg" yn y rhifyn diwethaf o CENNAD. Yn anffodus, llithrodd rhai camgymeriadau i mewn. Yn y frawddeg olaf ar dudalen 22, cyn tabl 10, awgrymir fod modd arbed £ 2000 y flwyddyn am bob claf ofelir amdano gyda gofal rhanedig fel a ddisgrifir yn yr erthygl. Y gwir yw mai am bob un o'r 25 claf fu yn yr ysbyty dydd am gyfnod di- dor o flwyddyn yr arbedwyd dros £ 2000. Llithrodd un ffigwr allan o Dabl 4 hefyd, gan mai 39 claf â dolur asgwrn neu gymal oedd yn mynychu'r Ysbyty Dydd yn y dyddiau cynnar. A bu diawl y wasg yn brysur ar Dabl 11 hefyd! Dylai'r llinell uchaf yn y tabl, yn nodi côst un person am flwyddyn ym Maes Gwyn ddarllen £ 10.55 y dydd, £ 73.85 yr wythnos, a £ 3840.20 y flwyddyn. Gyda llawer o ddiolch am rifyn diddorol iawn. Yr eiddoch yn gywir, J. Hirwaun Thomas