Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Golwyn, Clwyd Annwyl Gyfaill, Llongyfarchiadau ar eich "Nodyn Golygyddol" yn tynnu sylw at angen y claf am driniaeth "yn rhad ac am ddim", yn rhifyn Gaeaf 1988 o CENNAD. Gan ein bod yng nghanol newid paradigm o ofal am y claf seiciatregol, o'r ysbytai mawrion i rwydwaith o weithgareddau cymdeithasol ac addysgol yn y gymuned, y mae'n anochel y bydd i rai cleifion fethu dygymod â'r sefyllfa ac ymateb yn ffyrnig. I gyfarfod anghenion y cleifion hynny am driniaeth tros gyfnod byr, y mae nifer o Unedau Diogel Rhanbarthol ar gael yn Lloegr, ond ni sefydlwyd un yng Nghymru, hyd yn hyn. Y mae'n siwr y gellid camddefnyddio'r unedau hyn trwy eu gorlenwi â chleifion cronig, neu fe allai'r Ysbytai Ardal eu defnyddio fel esgus i osgoi eu cyfrifoldeb i ofalu am gleifion dyrys. Serch hynny, hwylusant driniaeth y cleifion seiciatregol ffyrnig sydd angen mesur o ddiogelwch yn hytrach na'r diogelwch llwyr welir mewn Ysbytai Arbennig. Tybed fydd anghenion y math arbennig hwn o glaf, all fod yn seiciatregol ffyrnig, am driniaeth addas mewn Uned Diogel sydd yn rhan o ddarpariaeth gymunedol gynhwysfawr, yn mynd yn angof oherwydd penderfyniad y Trysorlys i gwtogi ar y gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd unwaith yn rhagor. Yn gywir J. Aled Williams Dooley, E. (1988) The management of potentially dangerous patients in the community. Psychiatric Bulletin, 12, 10, 419421.