Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr Y Gymraeg fydd yr unig iaith yr ymddengys erthyglau, llythyrau, hysbysebion, ac yn y blaen, yn CENNAD. Dylid teipio unrhyw waith y bwriedir ei gyhoeddi, ar un ochr y ddalen, gan adael lle glân ar y chwith am tua 1". Dylid rhifo pob dalen yn ofalus a sicrhau bod pob un ynghlwm. Rhaid esbonio unrhyw fyrddodau ddefnyddir pan ymddangosant am y tro cyntaf, a rhaid sicrhau nad yw eu hystyr yn newid yng nghorff y gwaith. Dylid Cymreigio enwau swyddogol cyffuriau, e.e., 'amitriptulin' am 'amitriptyline', gan gofio nad oes V, V, *q\ 'k\ ac yn y blaen, yn y Gymraeg. Dylid cadw'r enwau marchnata yr un fath, e.e., 'Tofranil'. Dylai enwau cyflyrau, ac yn y blaen, ymddangos yn Gymraeg. Gall y Golygydd gynorthwyo gyda'r rhain. Disgwylir rhestr o gyfeiriadau neu lyfryddiaeth ar ddiwedd erthygl neu lythyr os bydd hyn yn berthnasol. Os cyfeirir at waith arall yng nghorff yr erthygl, yna rhaid cydnabod hyn, gan nodi'r ffynhonnell. Dylai awduron fabwysiadu dull Vancouver o arddangos y cyfeiriadau. Gellir cynnwys darluniau a chromlinau du a gwyn yn unig. Dylai fod digon o wahaniaeth rhwng y du a'r gwyn iddynt atgynhyrchu'n foddhaol. Gellir cynnwys tablau hefyd, ond rhaid nodi ym mha ran o'r erthygl y dylent ymddangos. Hoffwn petai enw'r awdur, neu awduron, ynghyd â'i raddau a'i swydd bresennol, yn ymddangos ar dudalen flaen y teipysgrif. Cedwir hawlfraint unrhyw erthygl, ac yn y blaen, ymddengys yn y cylchgrawn gan CENNAD, a rhaid cael caniatâd ysgrifenedig y Golygydd cyn atgynhyrchu eitem o'r cylchgrawn. Y mae orgraff yr erthyglau'n bwysig hefyd. Dylid sicrhau fod yr iaith yn gywir a safonol, gan ddilyn rheolau gramadeg a chystrawen y Gymraeg. Caniateir dyfyniadau o ieithoedd eraill yn CENNAD, ond rhaid nodi eu tarddiad, a rhaid eu cyfieithu i'r Gymraeg. Os myn yr awdur gellir ei gynnwys yn yr iaith wreiddiol hefyd, dan amgylchiadau arbennig. Bydd hawl gan y Golygydd i newid, cwtogi neu dalfyrru erthyglau. Tri llyfryn buddiol iawn i gyfranwyr fwrw golwg arnynt: 1. Davies, Elwyn, Cyfarwyddiadau i Awduron, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1969 (ail argraffiad) 2. Jones, Morgan, D., Cywiriadur Cymraeg, Gwasg Gomer, Llandysul, 1975 (ail argraffiad) 3. Hughes, J. Elwyn, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu, Gwasg Ffrancon, Bethesda, 1984.