Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol Treuliwyd y rhan helaethaf o Gynhadledd yr Hydref, 1990 yn trafod dyfodol y Gwasanaeth Iechyd, ac oherwydd pwysigrwydd y mater cyflwynir y darlithoedd ar ddechrau'r gyfrol hon. Gall y rhai ohonom sydd wedi ymddeol ganu gyda'r ferch o Ddolwar Fach, Beth sydd i mi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr,' ond mewn cyswllt pur wahanol i Ann Griffiths ni allwn beidio â theimlo tristwch wrth weld y newidiadau mawrion sy'n cael eu gwthio ar y rhai sydd yn ymdrechu i gynnal gwasanaeth iechyd, newidiadau heb unrhyw arbrofion i geisio asesu eu canlyniadau. Mae'r angen am ddatblygu ac addasu mewn unrhyw gyfundrefn yn ddi-ddadl, ond mater arall yw hapchwarae efo gwasanaeth sydd, er ei holl wendidau, wedi ei seilio ar ymroddiad deugain mlynedd, ac sydd ar y cyfan wedi rhoi mwy na gwerth yr arian a fuddsoddwyd. O ddarllen y darlithoedd, mae'n amlwg fod yna ni a nhw. Un ddadl amheus o ochr y cynllunwyr yw fod gormod o bwyslais wedi ei roddi mewn meddygaeth teulu i drin afiechyd ar draul peidio dysgu pobl i fyw'n iach. Onid trin afiechyd fu swyddogaeth meddyg teulu erioed? Mae'n debyg y bydd clinigau hybu iechyd yn boblogaidd gan rai am beth amser, ond a oes unrhyw ymchwil wedi ei wneud sydd wedi profi eu bod yn gost-effeithiol? Cost-effeithiolrwydd yw'r ystyriaeth fawr heddiw. Mae yna garfan sydd yn credu mai gwastraff amser ydynt i raddau helaeth. Nid nacáu yr angen am addysg iechyd yr ydym, ond awgrymu fod moddion eraill o'i gyflawni. Purion cofio fod pob awr sydd yn cael ei threulio mewn gweithgareddau o'r fath yn golygu awr yn llai i wrando ar y cleifion. Cyn y newidiadau presennol, diffyg amser gan y meddyg i wrando arnynt oedd un o brif gwynion y cleifion, ac mae hynny i raddau yn egluro ffyniant y dulliau ymylol o feddyginiaethu. Cwtogi ar wasanaethau a phrinder adnoddau sydd yn peri diflastod i'n harbenigwyr a'u cydweithwyr yn yr ysbytai, carfan o bobl sydd wedi treulio blynyddoedd yn paratoi eu hunain i'r gwaith, ac yn methu cael y defnyddiau i wneud eu gorau. Nid rhyfedd felly fod y morâl yn isel. Mae pawb yn cydnabod fod lle i wella effeithiolrwydd defnydd adnoddau, ond tra bod hynny'n digwydd, oni fyddai'n well i'r Weinyddiaeth Iechyd ganolbwyntio ei hymdrechion ar gael arian ychwanegol, a gofalu fod nifer digonol o staff yn cael eu hyfforddi a'u cymhwyso ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth? Yn sgîl moderneiddio, ymddangosodd llawer o dermau dieithr yn y wasg feddygol, rhai fel modiwl, dadansoddiad a chost rhagnodiadau, strwythur, rhagnodi dangosol, adolygiad urddolion, strategaeth ac ymlaen. Un term poblogaidd iawn dan y drefn newydd yw awdit, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod edrych yn fanwl a thrafod canlyniadau ein gwaith, ac ystyried dulliau i