Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwasanaeth lechyd yn y 1990au Mr John Wyn Owen Rhagymadrodd Mae cryfhau rhan clinigwyr yn y broses reoli, yn yr ystyr ehangach, er gwella gofal cleifion yn un o'r themau allweddol sydd wrth wraidd cynigiadau'r Llywodraeth yn "Working for Patients". Byddaf yn ystyried yr her sydd yn ein hwynebu yn y degawd nesaf o ran gwasanaethau iechyd. Byddaf yn trafod nifer faterion sy'n wahanol, ond yn gysylltiedig â'i gilydd, ac yn eu plith gynigiadau'r Llywodraeth ar gyfer newid yn y Gwasanaeth Iechyd, gan ganolbwyntio ar y newidiadau yn rôl clinigwyr. Byddaf yn ymdrin â'r pethau sydd raid i'r rheolwyr eu gwneud yn y flwyddyn ariannol bresennol, lle allweddol systemau i reoli ansawdd ac adnoddau, gwaith Fforwm Cynllunio Iechyd Cymru, ac yn olaf y newid yn y trefniadau Gofal Cymunedol. Yr angen am newid Pan lansiwyd y pecyn 'Gweithio dros Gleifion' yng Nghymru gan Mr Peter Walker, yr Ysgrifennydd Gwladol, fe bwysleisiodd yn y geiriau egluraf posibl fod y Gwasanaeth Iechyd wedi gwasanaethu Cymru yn dda dros y blynyddoedd. Ond fe bwysleisiodd na allai'r Gwasanaeth hwnnw aros yn ei unfan. Rhaid iddo fodloni her y degawd nesaf a pharatoi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen iddo wella ac fe allai wneud hynny. Un o wendidau'r Gwasanaeth heddiw yw diffyg eglurder ynghylch swyddogaethau ac amcanion, a chysylltiadau annigonol rhwng rheolwyr a'r staff proffesiynol ym maes gofal iechyd. Mae'r diwygiadau wedi eu cynllunio i newid hynny; i fywiogi'r Gwasanaeth gyda gwell cysylltiadau rhwng y rheolwyr a staff iechyd proffesiynol; rhwng awdurdodau iechyd ac ymarferwyr cyffredinol; rhwng ariannu a phoblogaeth; a rhwng yr arian sydd ar gael a'r gwaith sydd i'w wneud. Mae angen newid i ganiatáu i'r Gwasanaeth ymaddasu i ymateb yn hyblyg i'r pwysau sydd arno. Rwyf yn meddwl yma am ddemograffiaeth, a chanran gynyddol yr henoed yn y gymuned; am y datblygiadau mawr sydd yn digwydd mewn technoleg a dulliau meddygol; am ddisgwyliadau'r cyhoedd sydd yn cynyddu'n gyson, ac am gyfyngiadau o ran adnoddau y mae systemau cyflwyno iechyd yn eu hwynebu ledled y byd o safbwynt cyllid a gweithlu. Mae'r pwysau yma yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd fwyaf cost effeithiol bosibl i roi gwasanaeth mwy priodol ac o ansawdd gwell i'n cwsmeriaid. Mae rheoli newid yn galw am ymroddiad pawb ym myd gofal iechyd i gydweithio. Mae gan glinigwyr, ynghyd â'r holl weithwyr gofal iechyd, gyfraniad hanfodol i'w wneud mewn hyn o beth. Bydd y diwygiadau yn