Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bwriad a Chyfeiriad Strategau ar gyfer Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru Dr David Jones Rwyf am ddechrau gydag is-destun, sef 'Y ffordd ymlaen i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru tuag at y flwyddyn 2000'. Dewisais y testun, a'r is-destun yma am fy mod i wedi gwasanaethu fel aelod o'r Fforwm Cynllunio Iechyd yng Nghymru er ei sefydlu yn 1988 gan y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Mr Peter Walker, i roi cyngor arbennig ar gynlluniau'r Awdurdodau Iechyd yng Nghymru i'r Swyddfa Gymreig. Un o ffrwythau cyntaf y Fforwm yw datganiad cadarn o fwriad strategol fel a ganlyn 'Trwy gydweithio gydag eraill, dylai'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru anelu at fynd â phobl Cymru i mewn i'r 21ain ganrif gyda safon iechyd fydd yn symud at gymharu'n ffafriol â'r gorau yn Ewrop'. Yn y ddogfen ddanfonwyd yn ddiweddar i bob cartref yn y wlad, pwysleisiodd Mr David Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol, fod y Gwasanaeth Iechyd wedi ei ymrwymo i'r nod yma. Hyd yma mae yna deimlad cyffredinol fod ein Gwasanaeth Iechyd er 1948 wedi tueddu i orbwysleisio ar afiechyd a datblygu darpariaethau ar ei gyfer, ac ar yr un pryd wedi esgeuluso y materion pwysig hynny sydd yn ymwneud â iechyd pendant. Gwelir enghraifft eglur o hyn yn yr adnoddau sydd wedi eu buddsoddi mewn ysbytai mawr rhanbarthol. Wedi mwy na deugain mlynedd o'r drefn ddosbarthol yma, rhaid cydnabod nad yw safon iechyd y Cymry yn cymharu'n ffafriol iawn â iechyd llawer o'u cymdogion yn y Gymuned Ewropeaidd. (Ffigwr 1). Gwelir y patrwm ym marwolaethau o glefyd galon-lestrol, er mae'n werth nodi fod lleihad sylweddol mewn marwolaethau o'r achos hwn yng Nghymru a'r Alban er y chwedegau. (Ffigwr 2). Mae'r gymhariaeth â'r Gymuned Ewropeaidd yn dangos yr un duedd gyda marwolaethau o afiechydon eraill fel y canserau. Ffordd arall o edrych ar gyflwr iechyd yng Nghymru yw mesur nifer o flynyddoedd a gollir gan unigolion trwy farwolaeth gynamserol. (Ffigwr 3). Mae'r ystadegau yn ffigwr 3 yn cynnwys etifeddiaeth drist y glowyr a'r chwarelwyr, ac maent yn rhoddi mynegiant cywir o'r dynged sydd yn aros yr ysmygwyr yn ein plith. Sut felly y gellir cyflawni'r bwriad strategol yng Nghymru yn wyneb y ffeithiau hyn? Cynigiodd y Fforwm ffordd ymlaen drwy bwysleisio pwysigrwydd creu amgylchfyd tu mewn i'r Gwasanaeth Iechyd fydd yn rhoi llawer mwy o sylw i dair egwyddor. Yn gyntaf, canolbwyntio ar enillion iechyd yn hytrach nag ar afiechyd; yn ail, rhoi pwyslais ar werthfawrogi'r unigolyn; ac yn drydydd, gwneud gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael. (Ffigwr 4). Dyma sut y crynhoir yr egwyddorion yma gan y Fforwm, i ychwanegu