Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gofal yn y Gymuned Mr Meirion Hughes Y Cefndir Gellir olrhain datblygiad Gofal yn y Gymuned dros gyfnod o flynyddoedd lawer, ac yn hyn o beth, bu dylanwad ac ymdrechion y rhai oedd am weld cau yr ysbytai mawr oedd yn trin salwch neu anabledd meddwl, yn gryf iawn. Er fod llawer o adroddiadau swyddogol wedi cefnogi'r ddelfryd o ofal yn y gymuned, di-drefn ac anghyson oedd y datblygiad ar y cyfan. Yn 1986 derbyniwyd adroddiad gan y Comisiwn Archwilio, adroddiad a oedd yn dangos fod cynnydd dychrynllyd yng nghostau'r Adran Nawdd Cymdeithasol i gynnal trigolion mewn cartrefi preswyl preifat. Ar yr un pryd, roedd yn amlwg nad oedd arian ar gael yn y sector roedd pawb yn dweud eu bod yn ei gefnogi, sef Gofal yn y Gymuned. Yn 1988 gofynnwyd i Syr Roy Griffiths, a oedd yn Gadeirydd Cwmni Sainsbury's, gynnal archwiliad i'r modd yr oedd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i dalu am bolisïau gofal yn y gymuned, ac i wneud cynigion o ddulliau mwy effeithiol o'u defnyddio. Daeth Syr Roy i'r canlyniad fod yr hen drefn yn annigonol, fod angen newidiadau mawr yn null trefnyddiaeth y gwasanaethau, ac y dylai'r cyfrifoldeb am ofal yn y gymuned fod gyda UN gwasanaeth a fyddai yn atebol yn lleol. O'r holl ddewision a oedd ar gael, roedd Syr Roy yn argymell mai Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Llywodraeth Leol a ddylai fod â'r cyfrifoldeb i arwain y gwaith o ddatblygu Gofal yn y Gymuned. Beth felly oedd o'i le gyda'r hen drefn? Yn gyffredinol, er fod yn rhaid derbyn fod ambell i ardal wedi llwyddo i ddangos y ffordd ymlaen i eraill, roedd y gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig yn dibynnu ar beth oedd ar gael; "cewch unrhyw wasanaeth sydd angen arnoch os yw ar gael." Enghraifft dda o egwyddor masnachu Henry Ford mewn gofal cymdeithasol. Roedd costau yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd: Gwasanaethau 1979/80 1987/88 Gwasanaethau cartref Llywodraeth Leol £ 464m £ 1167m Gofal Preswyl Llywodraeth Leol £ 560m £ 1183m