Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O Mor Braf Cael Bod yn Glaf Mr Emrys Roberts Maddeuwch i mi am ddewis teitl braidd yn ddireidus. Yr oeddwn yn meddwl y byddai angen rhyw hoe fach ysgafn arnoch chi ganol prynhawn, ac nid oeddwn wedi ystyried beth fyddai cynnwys fy narlith wrth ddewis y testun. Ers hynny rwyf wedi bod yn meddwl beth yw fy neges i chi, ac ofnaf na fydd y cynnwys mor ysgafn ei gywair â'r teitl. Rwyf wedi dewis is-deitl i'r ddarlith fydd efallai'n astrus i chi ar y dechrau, sef 'Cofiwn Joseph Stalin'. Efallai daw ei briodolder yn amlwg i chi yn y man. Ond yn gyntaf 'O mor braf cael bod yn glaf dan y Papur Gwyn, a'r holl newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd onid e? Oblegid o hyn ymlaen byddwn yn cael archwiliad bob tair blynedd, neu yn fuan i rai ohonom archwiliad blynyddol. Dywed y Llywodraeth a'r cynllunwyr eu bod am ddileu rhestri aros yng Ngwent o fewn dwy flynedd. Bydd popeth yn yr ysbyty a'r feddygfa yn foethus ac yn gyfforddus iawn. Bydd pawb yn gwenu ar y cleifion. Bydd pawb yn rhoi digon o wybodaeth inni, yn ymgynghori a ni, ac yn gofyn am ein barn. Bydd yna awdit o safonau meddygol a safonau'r driniaeth fyddwn yn ei derbyn. Bydd popeth yn wych. O na fyddwn glaf o hyd! A'r claf fydd ben. Crynhoir yr holl ffeithiau hyn yn strategaeth y Fforwm Cynllunio Iechyd Cenedlaethol. Un o'i brif ddatganiadau yw fod gwasanaethau i'w hadeiladu o amgylch y claf. Y claf sydd i gael y lle canolog ar y llwyfan. Ond sut mewn gwirionedd y maent yn mynd i sicrhau y bydd hynny'n digwydd? Mae ganddynt weledigaeth, neu fel y maent yn dweud 'ddatganiad cenhadaeth' ('mission statement' yn Saesneg). Ym mis Tachwedd, 1989 bu cyfarfod yng ngwesty'r Angel, Caerdydd, gyda chynulleidfa wych. Roedd pobl bwysig ym myd iechyd yng Nghymru yno'n gryno, y rhai oedd wedi llafurio ar y cynllun am flwyddyn gron. Roeddynt wedi gweld y goleuni ar y ffordd i Ddamascus. A beth oedd y weledigaeth? Pob math o broctcoliau maith, mawr a manwl. Maent am i staff yr Awdurdodau Iechyd baratoi rhestri o fanylion am bob afiechyd sydd yn cael ei drin. Arweinia hyn i gytundebau gor-fanwl fydd yn gosod y safonau fydd raid eu cyrraedd. Dyma'r weledigaeth fawr, canolbwyntio ar hyn, ac yna cyfarwyddo pawb sut i wneud eu gwaith. Beth yw ymateb y meddygon tybed? Mae'r weledigaeth yn dderbyniol gan y cleifion am ei bod yn eu gosod ar ganol y llwyfan, ond mewn rhyw gornel yn y cefn y maent o hyd. Mae pobl yn parhau i anghofio'r claf. Byddaf yn cyfarfod y cynllunwyr yn rheolaidd. Maent wedi eu plesio gyda'r drefn newydd oherwydd mae'n dwyn busnes iddynt draw yn y Fforwm Cynllunio Iechyd Cenedlaethol, yn y Swyddfa Gymreig, ym Mhencadlys yr Awdurdod Iechyd, ac ym Mhencadlys yr Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teulu. Onid yw yn ddiwydiant mawr? Pobl yn cynhyrchu papurau, a drafftiau o bapurau, ac ail ddrafftiau, ac yn cyfarfod yn y fan yma ac yn y fan acw, ac yn cael ail gyfarfod. Maent yn cynhyrchu pob