Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfrifoldebau yr Awdurdodau Gwasanaethau lechyd Teuluol Newydd Mr R. Arfon Thomas Pan ofynnwyd i mi siarad yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Feddygol Gymraeg yn yr Wyddgrug ar rôl a chyfrifoldebau yr Awdurdodau Gwasanaethau Iechyd Teulu Newydd, y peth cyntaf a ddaeth i'r meddwl oedd yr angen i baratoi rhywbeth ystwyth a gweddol ddiddorol yn Gymraeg allan o fframwaith o ddogfennau a phapurau wedi eu paratoi yn Saesneg. Trosi felly oedd y gamp gyntaf i greu rhyw eirfa Gymraeg o'r iaith arbennig sydd yn bodoli yn yr holl gyflwyniadau a'r strategau sydd wedi eu cyflwyno a'u yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma. Yn ddi-os, yr oedd Medi 17eg, 1990 yn ddiwrnod tyngedfennol yn hanes y Pwyllgorau Ymarferwyr Teulu, oherwydd dyma'r diwrnod y newidiwyd eu statws i Awdurdodau Gwasanaethau Iechyd Teulu gyda chyfrifoldebau newydd a phendant yng nghyswllt:- 1. Rheoli y gwasanaethau iechyd teulu a hefyd y cyllidebau ar gyfer staff practisau, adeiladau a chyffuriau. 2. Cynllunio ar y cyd yr holl ddarpariaeth iechyd gyda'r Awdurdodau Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. 3. Pontio'r broses gynllunio rhwng y meddygon teulu a'r tri Awdurdod. Wrth sôn am y dogfennau a'r datblygiadau pwysig sydd wedi eu cyflwyno i'r gwasanaeth iechyd yn ddiweddar, addas fyddai taro sylw byr i bob un ohonynt gan ddechrau gyda'r ddau bapur gwyn 'Hybu Iechyd Gwell' a 'Gweithio Dros Gleifion', a'u prif argymhellion. Bu 'Hybu Iechyd Gwell' yn ddogfen ragflaen i ffurfio cytundeb newydd Meddygon Teulu ac yn canolbwyntio ar y canlynol:- 1. Pwyslais ar hybu iechyd, a hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y cytundeb newydd trwy wahanol fesurau 2. Cyllidebau penodedig ar gyfer ad-dalu costau staff practisau, a hefyd y cymorthdaliadau o dan y trefniadau 'Cost Rhent' 3. Cyfrifoldebau mwy pendant yng nghyswllt rheoli'r gwasanaeth iechyd teulu Daeth yr ail bapur gwyn, 'Gweithio Dros Gleifion' yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i adolygu trefniadau'r Gwasanaeth Iechyd drwy:- 1. Sefydlu Awdurdodau Gwasanaethau Iechyd Teulu 2. Sefydlu canllawiau Cyllidebau Cyffuriau i feddygon teulu 3. Sefydlu canllawiau Cyllidebau Practisau 4. Sefydlu trefniadau Archwilio Meddygol