Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trin Cyllidebau mewn Practis Dr H. Idris Humphreys Rwyf am ymgeisio dangos yn fras effaith cyllidebau mewn practis ar adrannau eraill o'r proffesiwn a'r Gwasanaeth Iechyd. Bydd yn effeithio ar y mwyafrif o'r adrannau, rhai yn fwy na'i gilydd; Mae pawb yn sôn am gyllidebau mewn practis fel petai'n rhywbeth newydd, ond mae'r meddyg teulu wedi bod yn rheoli cyllideb ers cychwyn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol oherwydd ei fod dan gytundeb annibynnol, un o'r ychydig grwpiau yn y sefyllfa hon. Gwelir yr effaith ar ei incwm personol. Derbynia grwpiau eraill gyflog penodol, ac mae unrhyw gostau sydd yn codi yng nghwrs eu gwaith yn cael ei dalu gan eraill. Gorfodwyd meddygon teulu, fel cytundebwyr annibynnol, i redeg busnes, gydag elw a cholled, yn union fel yr oedd pethau yn amser Dr Finlay, a chyn hynny. Eu cyflog oedd y gweddill wedi talu costau a rhoi rhyw faint o arian o'r neilltu i fuddsoddi yn nyfodol y practis. Yn oes Dr Finlay busnes bychan ydoedd, defnyddio rhyw ddwy ystafell yn y tý fel meddygfa, a'r forwyn yn gwasanaethu fel derbynwraig. Dros y blynyddoedd datblygodd practis yn fusnes mawr, er efallai nad yw pob meddyg wedi ei ystyried yn y termau hyn. Gyda thyfiant ym maint y practis a chynnydd yn nifer y partneriaid digwydd cynnydd yn y cyfanswm busnes hefyd. Nid yw arian cyfnewid (nid elw) o hanner miliwn o bunnau mewn blwyddyn yn anghyffredin. Mae practisau grwp o dri neu bedwar meddyg yn aml yn codi adeiladau newydd ar gost o dri neu bedwar can mil o bunnoedd, ac ar yr un pryd yn cyflogi wyth neu ddeg yn y swyddfa, efallai dwy nyrs a phobl angenrheidiol eraill fel y glanhawyr. Dengys hyn fod gan feddygon teulu beth profiad a medrusrwydd, er efallai fod rhai heb sylweddoli ehangder hyn, ond mae'n sicr nad yw'n ddigonol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd newydd. Mae'n bosib mai'r medrusrwydd yma sydd yn cyfrif am y ffaith fod y newidiadau cymhleth sydd yn digwydd yn y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn cael eu derbyn, dan brotest a chydag amheuaeth, a'u cyfannu mewn ymarfer cyffredinol yn rhwyddach nag mewn rhannau eraill ohono. Er ein bod yn eu hystyried yn fwy cymhleth a biwrocratig na'r hyn sydd ei angen, gweithredir y newidiadau yn y Gwasanaeth oherwydd ymroddiad y meddygon, y staff a'r awdurdod newydd, yr Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teulu. Mae cyfrifiaduro'n datblygu'n gyflymach ac ehangach mewn practisau teulu nag yn unrhyw ran arall o'r Gwasanaeth. Erbyn hyn mae 60% o bractisau wedi eu cyfrifiaduro yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Mae llawer o feddygon â chyfrifiaduron ar eu desgiau, ac maent yn cael eu defnyddio yn yr ymgynghoriad. Ni allwn ymdopi â'r cytundeb newydd heb eu defnyddio, ac yn awr mae adnoddau yn cael eu datblygu i wneud gwaith ariannol yn ogystal â